Wrth siarad flwyddyn ers cyflwyno 20mya ar draws ffyrdd penodol yng Nghymru, dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros lywodraeth leol a thrafnidiaeth, Peredur Owen Griffiths AS:
"Mae Plaid Cymru yn parhau i gefnogi'r egwyddor o wneud ein ffyrdd yn fwy diogel i'n cymunedau, ac mae data'n awgrymu ei fod wedi'i gyflawni ers i'r terfyn cyflymder diofyn gael ei ostwng.
"Flwyddyn yn ddiweddarach, mae'n bwysig bod Llywodraeth Lafur Cymru yn dysgu gwersi ac yn parhau i adolygu'r polisi 20mya - fel gwnaeth cynnig Plaid Cymru yn y Senedd sicrhau - i weld ble mae'r polisi yn gweithio a lle mae angen ei addasu."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter