Cafodd AS Plaid Cymru roi cynnig ar fod yn ychydig o DJ pan ymwelodd â chanolfan ddydd boblogaidd yn Nhorfaen.
Galwodd Peredur Owen Griffiths, AS Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru, i fewn i Ganolfan Ddydd Able yng Nghwmbrân Uchaf i weld y gwaith maen nhw'n ei wneud gydag oedolion ag anableddau dysgu.
Sefydlwyd Able yn 2006 a dechreuodd gyda radio ond mae wedi ehangu i ddarparu ystod eang o weithareddau sy'n cynnwys garddio a choginio i'w hymwelwyr.
Tra ar y daith gyda'r Rheolwr Gyfarwyddwr, Shaun O'Dwyer, gofynnwyd i Peredur ddewis trac ar gyfer y darllediad radio a'i gyflwyno.
Dywedodd Peredur: "Cefais amser hyfryd yn cael fy dangos o amgylch canolfan ddydd Able yng Nghwmbrân. Gwnaeth yr ystod eang o weithgareddau a oedd ar gael i oedolion ag anableddau dysgu argraff arnaf ac roeddwn yn rhyfeddu at yr angerdd a'r brwdfrydedd sydd gan staff am eu gwaith.
"Mae Able yn darparu profiadau hanfodol a chyfoethog i oedolion agored i niwed ac mae'n anodd gorbwysleisio pwysigrwydd y gwaith y maent yn ei wneud i'w pobl sy'n ymweld â nhw, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach."
Ychwanegodd Peredur: "Cefais fy rhoi ar y spot ychydig pan ofynnwyd i mi ddewis trac a'i gyflwyno'n fyw ar yr awyr. Dewisais glasur Frank Sinatra My Way a llwyddais i beidio â gwneud llanast o'r cyflwyniad, diolch byth!"
Wedi hynny, dywedodd Mr O'Dwyer: "Rydym yn gwerthfawrogi bod Peredur yn dod i ymweld â ni i weld beth rydym yn ei ddarparu yng nghanolfan ddydd Able. Mae hefyd yn dda cael gwleidyddion i ddod i weld drostynt eu hunain y gwaith rydym yn ei wneud a'r gwahaniaethau rydym yn eu gwneud i fywydau pobl.
"Mae'r ganolfan wedi dod yn rhan annatod o'r gymuned leol ac wedi datblygu enw da dros y blynyddoedd am fod yn lle cynnes a chyfeillgar i bawb sy'n ei ddefnyddio.
"Rydym yn dyst i'r pwysigrwydd y gall y trydydd sector ei chwarae wrth ddarparu cyfleuster pwysig i oedolion bregus."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter