Mae Peredur yn Defnyddio Araith Gwrth-Hiliaeth i Ffrwydro Torïaid am Alluogi'r Dde Eithafol

Anti-racism_march1.jpg

Mae Aelod Plaid Cymru o'r Senedd wedi siarad yn erbyn Llywodraeth Torïaidd San Steffan mewn rali gwrth-hiliaeth a gynhaliwyd ym mhrifddinas Cymru.

Siaradodd Peredur Owen Griffiths, sy'n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru, yn y digwyddiad ddydd Sadwrn a drefnwyd i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu Gwahaniaethu ar Sail Hil.

Dywedodd Peredur wrth y dorf fawr o bobl bod y Torïaid yn creu'r amodau i grwpiau asgell dde eithafol ehangu a ffynnu mewn rhannau o'r DU gyda'u rhethreg beryglus ynghylch ffoaduriaid. 

Dywedodd: "Gyfeillion, rydyn ni'n byw mewn cyfnod peryglus iawn. Mae'r dde eithafol yn mynd yn feiddgar a swnllyd.

"Maen nhw'n cam-ddefnyddio’r amodau i gyd-fynd â'u hagenda ffiaidd a chynhennus eu hunain. Yn eu byd nhw, mae'r bobl sydd ddim yn edrych fel nhw yn dod yn elyn.

"Maen nhw'n gwneud ‘scapegoats’ allan o ffoaduriaid, o'r bregus, ac o'r bobl sydd ddim yn ffitio eu templed.

"Maen nhw'n gosod y bai am bethau fel ein heconomi fregus, costau byw cynyddol, a chymaint mwy, ar ffoaduriaid ac unrhyw un arall sydd ddim yn ffitio yn eu byd.

"Ond rydyn ni'n gwybod y gwir. Ni fyddai unrhyw ran o hyn yn bosib heb Lywodraeth Dorïaidd sydd wedi creu'r amodau i'r eithafwyr asgell dde hyn ffynnu."

Ychwanegodd: "Mae gobaith oherwydd bydd fy mhlaid Plaid Cymru yn parhau i ymladd y mesur peryglus hwn gyda'n holl nerth.

"Mae 'na obaith, oherwydd digwyddiadau fel hyn, sy'n dangos bod digon o bobl dda yn dal i fod allan yne, mae 'na ddynoliaeth o hyd ac mae 'na dosturi ar ôl yn ein cymdeithas ni o hyd.

"Mae gobaith oherwydd bydd yn rhaid i'r Torïaid ateb yn fuan am eu rhethreg ddeifiol a'u methiannau niferus yn y blwch pleidleisio. Ar ôl 13 mlynedd o lywodraeth Dorïaidd San Steffan, ni all y diwrnod hwnnw ddod yn ddigon buan.

"Ffrindiau... chi'n gwybod beth i'w wneud pan ddaw'r amser."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2023-03-21 10:12:52 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns