Mae dau Aelod o'r Senedd Plaid Cymru wedi croesawu'r newyddion y bydd pont droed yn cael ei thrwsio yn fuan ar ôl bron i bedair blynedd.
Yn ôl Peredur Owen Griffiths a Delyth Jewell mae'r cadarnhad gan Trafnidiaeth Cymru (TrC) y byddai'r gwaith yn dechrau'n fuan ar bont Ty'n-y-graig yn hwb mawr i bobl Llanbradach.
Mynegodd y pâr eu siom fodd bynnag na fyddai gwaith atgyweirio ar bont droed caeedig arall yn y pentref - pont hanesyddol yr orsaf drenau – ddim yn dechrau tan flwyddyn ariannol 2025/26.
Cafodd y wybodaeth ei chynnwys mewn ateb i lythyr anfonodd Peredur a Delyth at TrC ddechrau Chwefror. Yn ei ateb, ymddiheurodd Prif Swyddog Gweithredol TrC, James Price, am yr oedi helaeth.
Dywedodd: ‘Diolch am eich e-bost ac am gymryd amser i ysgrifennu ataf, a hoffwn ymddiheuro am yr amser y mae wedi'i gymryd i'w datrys.
‘Fel y gwyddoch efallai, mae'r rhaglen i ddarparu un newydd wedi bod yn llawer mwy cymhleth na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol, gan gynnwys caffael tir, addasu cynlluniau i ystyried y safonau diogelwch presennol, ac adolygiad o dechnegau peirianneg.
‘Fodd bynnag, mae hyn wedi mynd ymlaen yn llawer rhy hir ac rwyf wedi gofyn i'r timau dan sylw hwyluso hyn ac rwyf wedi eu neilltuo i weithio ar y prosiect hwn yn uniongyrchol ac nid trwy ein partneriaid seilwaith.’
Ychwanegodd: ‘Rwyf wedi gofyn i'r tîm lunio rhaglen ddangosol ar gyfer y strwythur newydd ar frys ac iddynt rannu hyn gyda mi erbyn diwedd mis Chwefror.
‘Byddaf yn rhannu'r rhaglen lawn gyda chi unwaith y byddaf yn ei derbyn gyda'm nod yw bod y bont yn cael ei chyflwyno yn 2024.
‘Rydyn ni'n gwybod bod hyn wedi bod yn amser hir, ac ar ran Trafnidiaeth Cymru hoffwn ymddiheuro unwaith eto fod y rhaglen i gymryd lle pont Ty'n-y-Graig wedi cymryd llawer hirach nag y byddai unrhyw un yn ei ddisgwyl.’
O ran pont droed yr orsaf, dywedodd Mr Price bod cynlluniau adfer ar gyfer y bont yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd ond nad yw'r gwaith wedi'i amserlennu tan flwyddyn ariannol 2025/2026 i 'sicrhau bod adnoddau a chyllid yn canolbwyntio ar Ty'n-y-Graig...'
Mewn ymateb, dywedodd Peredur a Delyth: "Rydym yn falch ein bod wedi derbyn ymrwymiad y bydd y gwaith yn anelu at gael ei gwblhau yn 2024 ar bont Ty'n-Y-Graig.
"Rydym wedi clywed hyn i gyd o'r blaen wrth gwrs felly, ynghyd â'n cynghorwyr Plaid Cymru yn Llanbradach, Colin Mann a Gary Enright, byddwn yn cadw llygad barcud ar faterion yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
"Mae'n hurt ei bod wedi cymryd cymaint o amser i atgyweirio dwy bont sydd wedi'u difrodi sydd wedi achosi llawer o anghyfleustra i bobl Llanbradach.
"Bydd siom hefyd nad yw pont yr orsaf wedi'i threfnu i'w hadfer tan 2025/26 gan fod y bont dros dro yn wael i’w gymharu a’r peth go iawn.
"Hoffem weld hyn yn cael ei wneud ar fyrder gan fod pobl Llanbradach wedi dioddef yn ddigon hir."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter