Mae Aelod Senedd Plaid Cymru wedi dweud y gallai deddfwriaeth trafnidiaeth gyhoeddus newydd fod yn drawsnewidiol i Gymru ond "mae'r diafol yn y manylion."
Roedd Peredur Owen Griffiths yn siarad wrth i Lywodraeth Cymru gyflwyno datganiad ar eu Bil Bysiau hir-ddisgwyliedig. Bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig - ar ôl ei gymeradwyo - yn dechrau rhoi bysiau o dan reolaeth gyhoeddus. Bydd hefyd yn caniatáu i swyddogion benderfynu pa wasanaethau sy'n cael eu darparu i gymunedau ledled Cymru.
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Peredur: "Ychydig fel aros am fws yng Nghymru, ar ôl aros hir ac, ar adegau, meddwl tybed a fyddai byth yn cyrraedd, rwy'n falch iawn o weld y datganiad heddiw o'r diwedd ar y Bil gwasanaethau bysiau. Mae hon yn foment hanesyddol.
"Os cymerwn eiliad i edrych ar Fanceinion, gallwn weld sut mae masnachfreinio wedi trawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus, gan wella cysylltedd a dibynadwyedd gwasanaeth, cyflwyno fflyd fwy ecogyfeillgar, gostwng prisiau a chreu mwy o swyddi. Dyma'r mathau o fuddion y dylem fod yn ymdrechu amdanynt yng Nghymru.
"Fodd bynnag, fy mhryder i yw sut mae’r Llywodraeth yn cyflawni’r polisi. Rwy'n clywed yr holl eiriau da gan Ysgrifennydd y Cabinet yn y Siambr hwn yn rheolaidd yn ystod cwestiynau a dadleuon, ond yna rwy'n siomedig pan nad yw'r gwirionedd ddim bob amser yn cyfateb i’r geiriau. Os ydych chi'n siarad â phobl ledled Cymru, byddan nhw'n dweud wrthych chi dro ar ôl tro pa mor wael yw ein system drafnidiaeth."
Ychwanegodd: "O dan fasnachfraint, rydyn ni eisiau gweld mwy o lwybrau yn cael eu hadfer a'r difrod o flynyddoedd o doriadau gwasanaeth yn cael ei wrthdroi. Nid yw dadreoleiddio wedi gweithio.
"Mae angen eglurder arnom ar sut y bydd cynllunio llwybrau yn cael ei gynnal, sut y bydd lleisiau, busnesau a chymunedau lleol yn cymryd rhan yn y broses, a sut y bydd hyn yn cyfrannu at ddatblygiad economaidd a ffyniant.
"Efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet esbonio sut y bydd hyn yn gweithio yn ymarferol yn ein cymunedau lleol yn ei ymateb. Dylai mapio patrymau cymudwyr, yn ogystal â dwysedd tai o amgylch arosfannau bysiau, chwarae rhan allweddol yn y strategaeth hon, ac rwy'n croesawu'r newyddion am gasglu data. Dylai'r data hwn yrru rhai o'r penderfyniadau hynny."
Gorffennodd Peredur ei gyfraniad trwy ddweud: "Rwyf am weld nifer neilltuedig o gontractau ar gyfer y busnesau bach a chanolig a darparwyr bysiau lleol. Clywais yr hyn a ddywedasoch am y cyfarwyddyd i Drafnidiaeth Cymru i ddatblygu dull sy'n denu amrywiaeth o weithredwyr.
"Mae hwn yn faes lle nad yw Manceinion wedi gwneud cystal ag y gallai, ac rwy'n annog Ysgrifennydd y Cabinet i gefnogi polisïau caffael sy'n defnyddio masnachfreinio fel offeryn ar gyfer datblygu lleol a thwf busnes Cymru. Allwch chi ddweud ychydig mwy am hyn yn eich ymateb?
"I grynhoi, mae fy nghydweithwyr a minnau ym Mhlaid Cymru yn lled gefnogol o'r Bil. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau'r fersiwn orau bosibl ohoni drwy'r Senedd hon, ond yn y pen draw mae'r diafol yn y manylion ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn cyflawni gwelliannau gwirioneddol, parhaol i bobl Cymru."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter