Mae Toriadau Bysiau Ysgol yn "gam ôl" - Peredur

CCBC_P3.jpg

Mae Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru wedi condemnio toriadau cyngor Llafur i drafnidiaeth ysgol.

Dywedodd Aelod o'r Senedd De fod Cynghorau Bwrdeistref Sirol Caerffili yn bwriadu newid meini prawf bws ysgol am ddim i bellter lleiaf o 2 filltir ar gyfer plant oed cynradd (1.5 milltir ar hyn o bryd) a 3 milltir i blant oed uwchradd (2 filltir ar hyn o bryd) yn "siomedig".

Bydd y mater yn mynd i'r Cabinet i'w ystyried cyn ymgynghoriad posib ym mis Medi. Fe allai'r toriadau gael eu cyflwyno o fis Medi 2026.

Dywedodd AS Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths: "Mae hwn yn gam yn ôl gan y cyngor Llafur oherwydd bydd yn cyfyngu ar gyfleoedd addysgol i blant ar draws y fwrdeistref sirol ac ar draws pob math gwahanol o ysgolion.

"Bydd yn arbennig o niweidiol i deuluoedd heb gar. Mae'n anochel y bydd teuluoedd sydd â'r lleiaf yn cael eu heffeithio yn waeth.

"Gall y newidiadau arfaethedig hefyd olygu na fydd plant yn gallu dechrau neu barhau ag addysg mewn lleoliad cyfrwng Cymraeg oherwydd bod gan ysgolion o'r fath ddalgylch mwy, sy'n golygu nad nhw yw'r ysgol 'leol' yn aml i lawer o'u disgyblion.

"Mae'r Cyngor Llafur yn tanseilio cynlluniau eu plaid eu hunain mewn llywodraeth i sefydlu miliwn o siaradwyr Cymraeg."

Ychwanegodd: "Mae'n ffaith syml y bydd cerdded mwy na dwy filltir yn y glaw a'r gwynt yn digalonni hyd yn oed y disgyblion mwyaf ymroddedig.

"Mae hyn yn siomedig gan y cyngor Llafur - bydd Plaid Cymru yn gwrthwynebu'r mesurau hyn yn gryf."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2024-07-19 10:33:06 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns