Mae AS Plaid Cymru wedi galw canfyddiadau adroddiad elusen ar raddfa tlodi yng Nghymru yn "frawychus".
Roedd Peredur Owen Griffiths, sy'n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru, yn gwneud sylw yn dilyn cyhoeddi adroddiad ymchwil Gofal a Thrwsio i effaith yr argyfwng costau byw.
Daeth yr elusen o hyd i:
- Hyd yn oed gyda chymorth ariannol Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, bydd cleient Gofal a Thrwsio ar gyfartaledd yn gwario 19% o'u hincwm ar wasanaethau.
- O gyhoeddiad diweddar cap prisiau Ofgem ar 23/11/2023, mae'r elusen yn disgwyl i bobl hŷn fod tua £100 yn waeth eu byd y gaeaf hwn unwaith y bydd y cap hwn yn ei le.
- Mewn sampl o gartrefi Gofal a Thrwsio a oedd yn defnyddio eu gwasanaeth cyngor ynni, roedd 96% o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd.
Dywedodd Peredur: "Mae'r adroddiad hwn yn frawychus. Mae'n peri gofid clywed am y lefelau tlodi sy'n bodoli yn ein cymunedau.
"Mae llawer o'r bobl sy'n dioddef yn bobl oedrannus a allai fod angen gwresogi eu cartrefi yn fwy na phobl iau ond na allant ei fforddio.
"Mae angen help brys ar bobl - mae bywydau'n dibynnu'n llythrennol ar fwy o gefnogaeth. Dyna pam mae Plaid Cymru yn galw ar i'r llywodraeth fynd i’r afael ar filiau ynni cynyddol.
"Rydym wedi annog Llywodraeth San Steffan i greu tariff cymdeithasol i leihau costau i'r tlotaf a lleihau taliadau sefydlog anfforddiadwy."
Ychwanegodd Peredur: "Yn y tymor hwy, mae'n hanfodol ein bod yn datgloi potensial ynni gwyrdd Cymru trwy ddatganoli ystâd y goron ac ehangu cynlluniau ynni cymunedol.
"Fel hyn, gallwn gadw'r cyfoeth yn ein cymunedau yn hytrach na leinio pocedi cyfranddalwyr y cwmnïau ynni sydd wedi bod yn dianc rhag y cyhoedd ers llawer rhy hir nawr."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter