Mae Peredur Owen Griffiths wedi codi mater diogelwch tomenni glo yn ystod cwestiynau i'r Llywodraeth a dadl dan arweiniad Plaid Cymru yn y Senedd.
Siaradodd yr Aelod o'r Senedd dros Ddwyrain De Cymru - lle mae 175 o domenni glo Categori C a D - ddwywaith ar y pwnc mewn un diwrnod o'r cyfarfod llawn yr wythnos hon.
Yn ystod cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio, dywedodd Peredur: "Mae diogelwch tomenni glo yn broblem enfawr yn fy rhanbarth oherwydd y dreftadaeth ddiwydiannol drom. Mae'n destun gofid na wnaeth Llywodraeth San Steffan, dan reolaeth y Torïaid a'r Blaid Lafur, erioed wneud y meysydd hyn yn ddiogel i'n cymunedau pan gawson nhw'r cyfle.
"Mae yna gynnig i dynnu glo o rai o'r tomenni yn hen lofa Bedwas ac i'w hadfer yn y broses.
"Fodd bynnag, nid yw'r domen categori D sydd agosaf at gartrefi pobl—yn llythrennol ychydig y tu allan i ardd gefn rhes hir o gartrefi—yn cael ei chyffwrdd. Mae'n debyg bod y domen hon mewn perchnogaeth breifat."
Ychwanegodd: "Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi nad perchnogaeth tir ddylai fod y prif bryder o ran gwarantu diogelwch y bobl rydyn ni'n eu cynrychioli?
"Sut mae'r Llywodraeth yn gweithio i oresgyn rhwystrau cyfreithiol er lles ein cyn-gymunedau glofaol, a sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau ei hun bod unrhyw waith adfer sy'n cael ei wneud yn ein cymunedau yn cael ei yrru gan ddiogelwch ac nid elw?"
Yn ddiweddarach yn y trafodion, holodd Peredur gost amgylcheddol bosibl y cynllun arfaethedig ar gyfer hen lofa Bedwas ac anogodd awdurdodau i graffu ar y cynlluniau'n ofalus er mwyn cymunedau lleol.
Dywedodd: "Mae cyfiawnder i gymunedau yng Nghymru yn mynnu craffu cadarn a chwestiynu manwl i sicrhau bod gwaith adfer ac ail-bwrpasu tomenni glo segur a safleoedd ôl-ddiwydiannol eraill yn cael ei wneud yn y ffordd fwyaf diogel posibl.
"Mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus yn erbyn unrhyw ymdrechion i adfywio'r diwydiant cloddio glo drwy ddulliau cudd.
"Fel cynrychiolwyr, mae angen i ni flaenoriaethu lles hirdymor y bobl yr ydym yn eu cynrychioli, diogelwch ein cymunedau a chynaliadwyedd ein hamgylchedd.
"Mae angen i ni sicrhau ein bod yn gwrando ar leisiau'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt a sicrhau bod eu buddiannau'n cael eu diogelu.
"Dim ond drwy wneud ein gwaith yn iawn a chraffu ar y prosiectau hyn yn fanwl gallwn fod yn wirioneddol anrhydeddu ein hymrwymiad i les cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol yng Nghymru."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter