Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru wedi beirniadu Llywodraethau Llafur olynol yng Nghymru am fethu â chyflwyno deddfwriaeth ar yr hawl i brynu asedau cymunedol.
Dywedodd Peredur Owen Griffiths, sy'n cynrychioli Dwyrain De Cymru, bod Cymru wedi cael ei gadael ar ei hôl hi ar ôl yr Alban a Lloegr o ran grymuso cymunedau.
Ychwanegodd y byddai deddfwriaeth o'r fath i Gymru yn ddefnyddiol pan fydd awdurdodau lleol - fel un Llafur Bwrdeistref Sirol Caerffili - yn edrych i gau adeiladau nodedig fel Llancaiach Fawr neu Sefydliad y Glowyr Coed Duon.
Yn ystod cwestiynau i Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet Llafur dros Dai a Llywodraeth Leol, dywedodd Peredur: "Rwy'n nodi datganiad diweddar y Llywodraeth ar y comisiwn asedau cymunedol, a gyhoeddwyd ar 24 Medi.
"Nid beirniadaeth o'r bobl neu'r sefydliadau sy'n ymwneud â'r comisiwn hwnnw yw fy nghwestiwn mewn unrhyw ffordd, ond mae'n rhaid i mi ddweud pa mor siomedig yw hi fod Cymru, yn 2024, yn dal heb ddeddfwriaeth yn rhoi'r hawl i gymunedau brynu asedau lleol.
"Mae hyn yn rhywbeth y mae cymunedau yn Lloegr wedi ei fwynhau ers bron i ddegawd a hanner, ac mae Llywodraeth yr SNP hefyd wedi cyflwyno deddfwriaeth debyg ond llawer cryfach yn yr Alban.
"A yw'n syndod bod melin drafod y Sefydliad Materion Cymreig wedi disgrifio cymunedau Cymru fel y rhai lleiaf grymus ym Mhrydain o ran amddiffyn tir ac asedau?"
Ychwanegodd: "Mae hyn o ddiddordeb arbennig yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, lle mae cabinet Llafur Caerffili newydd benderfynu cau plasty ac amgueddfa fyw wych y Tuduriaid, Llancaiach Fawr.
"Byddai'r math yma o ddeddfwriaeth wedi bod yn opsiwn amgen i'r awdurdod lleol a'r gymuned leol.
"Am ba hyd y bydd yn rhaid i gymunedau Cymru aros i fwynhau hawliau a buddion asedau cymunedol y mae eu cymheiriaid yn y DU wedi'u cael ers blynyddoedd?
"Am ba hyd y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol aros am declynau ychwanegol i allu helpu yn y maes hwn? A faint mwy o adeiladau fydd ein cymunedau yn eu colli cyn i'r Llywodraeth hon weithredu?"
Mewn ymateb dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod y llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau ar asedau cymunedol yn 2019 ac y bydd canllawiau yn cael eu hadolygu yn 2025.
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter