Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru wedi annog y Llywodraeth Lafur i weithredu'n gyflym i rymuso cymunedau ledled Cymru.
Gwnaeth Peredur Owen Griffiths AS yr alwad yn ystod dadl fer ar asedau cymunedol a arweiniwyd gan ei gyd-aelod, Delyth Jewell.
Fe wnaeth Peredur herio’r Llywodraeth Lafur am beidio â chyflwyno deddfwriaeth fyddai'n rhoi'r hawl i gymunedau brynu asedau cyn iddyn nhw fynd i'r farchnad breifat. Mae deddfwriaeth o'r fath eisoes yn bodoli yn yr Alban ac mae Lloegr wedi gwneud hynny ers blynyddoedd lawer.
Yn ystod y ddadl fer, dywedodd Peredur: "Mae hwn yn bwnc sy'n agos iawn at fy nghalon ac rwyf wedi cefnogi grwpiau sydd wedi ceisio dal gafael ar asedau cymunedol, ond sydd wedi cael yr ods yn eu herbyn.
"Fel arfer mae gan y farchnad breifat bocedi llawer dyfnach na chwmnïau cydweithredol lleol. Mae'n anghysondeb mawr nad yw pobl yng Nghymru yn mwynhau'r un hawliau â chymheiriaid yn yr Alban a Lloegr o ran yr hawl i brynu'r asedau cymunedol hynny.
"Does dim eglurhad digonol wedi ei roi ar gyfer hyn erioed. Mae wedi arwain at y Sefydliad Materion Cymreig yn cynhyrchu adroddiad yn 2022 a ganfu mai cymunedau Cymru oedd â'r lleiaf o rym ym Mhrydain.
"Mae Llywodraethau Llafur olynol wedi gollwng y bêl ar hyn. Yn y cyfamser, faint o'n hasedau cymunedol ydyn ni wedi'u colli? Faint fyddwn ni'n parhau i'w golli nes bod yr anghysondeb hwn yn cael ei gywiro?"
Ychwanegodd: "Byddai'r grwpiau hynny rydw i wedi'u cefnogi wedi ei chael hi'n llawer haws cadw asedau cymunedol at ddefnydd cymunedol gyda mesurau diogelu o'r fath ar waith.
"Rwy'n annog y Llywodraeth i weithredu'n gyflym ar hyn, i amddiffyn ein hasedau cymunedol ac i roi gobaith i'n cymunedau."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter