Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru wedi cyhoeddi y bydd 'cynhadledd y cymoedd' yn cael ei chynnal gan y blaid yn ddiweddarach yr hydref hwn.
Dywedodd Peredur Owen Griffiths wrth gynhadledd ei blaid yn Aberystwyth mai'r digwyddiad fydd cyfle i aelodau ac ymgyrchwyr ddod at ei gilydd, clywed am y problemau mae cymunedau'n eu hwynebu a trafod atebion posib.
Dywedodd AS Dwyrain De Cymru bod y cyfrfod cychwynnol hwn yn rhan o strategaeth i ddatblygu cysylltiadau cryfach rhwng llunio polisïau a aelodau llawr gwlad y blaid.
Dywedodd: "Rwy'n falch o ddweud wrth gynhadledd y bydd cynhadledd y Cymoedd ym Merthyr yn ddiweddarach yr hydref hwn.
"Y syniad yw dod â'n haelodau a'n gweithredwyr ynghyd o dan yr un to fel y gallwn lunio'r syniadau a'r polisïau sydd wedi'u teilwra ar gyfer yr hen feysydd glo yn ne ein gwlad.
"Efallai nad ydw i'n swnio fel fy mod o'r de ond dyna lle mae fy nghalon ar ôl symud yma dros 20 mlynedd yn ôl.
"Un peth dwi wedi ei ddysgu am gymunedau'r cymoedd yn y ddau ddegawd dwi wedi byw yma yw bod gwytnwch, undod a charedigrwydd yn helaeth.
"Ein pobl ni yw'n adnodd mwyaf pwysig. Rwy'n gwybod y bydd yr atebion gorau i'r problemau a wynebwn yn dod o'n cymunedau.
"Rwy'n gobeithio y bydd yr awgrymiadau a gyflwynwyd gennym o gynhadledd y Cymoedd yn chwarae rhan fawr ym maniffesto nesaf y Senedd.
"Mae angen i ni ddangos i bobl yng Nghymru mai ni yw'r dewis arall go iawn i'r hen sefyllfa, hen ffasiwn sydd wedi dominyddu tirwedd wleidyddol Cymru ers canrif.
"Fel plaid, mae'n rhaid i ni ddod at ein gilydd fel erioed o'r blaen oherwydd bod angen Plaid Cymru gref ar ein gwlad."
Yn ystod yr araith, talodd Peredur deyrnged hefyd i waith aelodau ledled y wlad i helpu eu cymunedau, gan nodi enghreifftiau fel y cynlluniau Cyfran Bwyd sydd wedi eu rhedeg o swyddfeydd AS Plaid Cymru yng ngogledd a de'r wlad.
Ychwanegodd: "Fel y gwyddoch i gyd, mae bod yn aelod gweithgar o Blaid Cymru yn golygu eich bod yn cael gradd o'r radd flaenaf mewn gwleidyddiaeth stryd ac mae'n eich plygio i'n cymuned leol pe na baech yn cymryd rhan o'r blaen.
"Mae'r rhinweddau hyn wedi'u hysgrifennu y tu mewn i aelodau'r blaid hon fel yr ysgrifen tu fewn i roc Aberystwyth.
"Dyma sy'n gwneud ein aelodau, ein hymgyrchwyr a'n cynghorwyr yn arbennig."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter