Mae Aelodau Senedd Plaid Cymru Delyth Jewell a Peredur Owen Griffiths wedi annog Cyngor Caerffili i ymestyn y cyfnod ymgynghori ar newidiadau mawr i’r gefnogaeth a roddir i Faenordy Llancaeach Fawr, Sefydliad y Glowyr Coed Duon a newidiadau i wasanaethau Pryd ar Glud i’r fwrdeistref sirol.
Mae’r ymgynghoriad i fod i ddod i ben am 5pm ddydd Mawrth 10 Medi 2024.
Hoffai'r ASau weld y cyngor yn ymestyn yr ymgynghoriad fel bod mwy o bobl yn gallu lleisio eu gwrthwynebiad i'r newidiadau.
Mae'r ASau wedi ysgrifennu at bob cyngor cymuned a thref ym mwrdeistref sirol Caerffili yn annog cymunedau a chynghorwyr i fynegi eu barn.
Mewn datganiad ar y cyd dywedodd Delyth Jewell MS a Peredur Owen Griffiths MS:
“Rydym yn gwerthfawrogi’r hinsawdd ariannol anodd i awdurdodau lleol sydd wedi’i hachosi gan galedi’r Torïaid. Yn anffodus, mae hon yn sefyllfa sy’n annhebygol o wella unrhyw bryd yn fuan oherwydd amharodrwydd Llywodraeth bresennol y DU i adfer buddsoddiad digonol mewn gwasanaethau cyhoeddus.
“Fodd bynnag, mae’r toriadau arfaethedig i ddau adeilad nodedig yn ein sir, yn ogystal â thoriadau i wasanaeth hanfodol y mae cymaint o bobl fregus yn dibynnu arno wedi achosi pryder mawr i ni. Mae’n ymddangos bod llawer o drigolion y fwrdeistref sirol yn rhannu ein teimladau.”
Mae cynrychiolwyr Plaid Cymru eisoes wedi ysgrifennu at Arweinydd Cyngor Caerffili, y Cynghorydd Sean Morgan yn mynegi eu gwrthwynebiad i’r cynigion.
Yn eu llythyr at arweinydd Llafur y cyngor fe ddywedon nhw:
“Mae gennym bryderon sylweddol am gwmpas a hyd y cyfnod ymgynghori hwn. Mae’r ymgynghoriad yn digwydd yn ystod gwyliau’r haf, pan fydd llawer o deuluoedd ar wyliau, ac efallai na fyddant yn sylweddoli bod yr ymgynghoriad yn digwydd.
"Yn yr un modd, daw’r ymgynghoriad i ben cyn y bydd y Senedd yn dychwelyd o’r toriad, a byddem yn awyddus i ofyn i Lywodraeth Cymru roi cymorth brys i’r awdurdod lleol er mwyn atal y gwaith cau llym hwn rhag digwydd.
“Hoffem eich annog, os gwelwch yn dda, i ymestyn y cyfnod ymgynghori i ddiweddarach yn y flwyddyn fel y gellir cynnal unrhyw drafodaethau brys, ac fel y gall pob teulu sy'n mwynhau'r atyniadau hyn roi eu hadborth.
"At hynny, byddem yn gofyn i chi gynnal digwyddiadau ymgynghori mewn ardaloedd y tu hwnt i'r cyffiniau agos â Sefydliad y Glowyr Coed Duon a Llancaeach Fawr.
“Mae’r fwrdeistref sirol gyfan, a thu hwnt, yn mwynhau defnyddio’r ddau atyniad a byddai’n ymddangos yn anghyfiawn cyfyngu ar gwmpas yr ymgynghoriad: byddem yn eich annog i gynyddu nifer y digwyddiadau ymgynghori hyn os gwelwch yn dda.”
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter