Mae AS Plaid Cymru wedi galw ar y Llywodraeth Lafur i gyfrif am y broblem gynyddol o ofal coridorau yn ysbytai Cymru.
Rhoddodd Peredur Owen Griffiths y Gweinidog Iechyd Llafur ar y spot ar ôl cyfarfod â chynrychiolwyr o RCN Cymru a BMA Cymru.
Mae'r ddau gorff wedi ymuno i lansio deiseb i geisio cael y Llywodraeth Lafur yng Nghymru i ddatrys y mater.
Mewn sesiwn lawn, dywedodd Peredur: "Ni ddylai unrhyw glaf fod yn aros am ddyddiau mewn cadeiriau, ond pan fyddwch chi'n clywed bod y cleifion oedrannus a bregus yn cael eu gorfodi i wneud hyn, yna mae'n dorcalonnus ac yn gwbl annerbyniol.
"Dywedodd Helen Whyley, cyfarwyddwr gweithredol RCN Cymru, 'Rydyn ni y tu hwnt i'r pwynt torri'.
"Siaradodd Stephen Kelly, cadeirydd pwyllgor ymgynghorwyr Cymru y BMA, am ei bryder bod gofal coridor yn cael ei normaleiddio.
"Mae'r ddau gorff bellach wedi sefydlu deiseb i wneud rhywbeth ynglŷn â gofal coridor ar ôl rhoi cynnig ar wahanol fesurau yn y gorffennol i roi pwysau ar y Llywodraeth."
Ychwanegodd: "Ysgrifennydd y Cabinet, ydych chi'n cydnabod pryderon miloedd o feddygon a nyrsys yn ein GIG ynglŷn â gofal coridor? Ac yn ail, pryd y byddwn yn gweld cynydd yn dilyn y miliynau o bunnoedd rydych chi'n ddarparu i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon ond heb ddiwedd yn y golwg?"
Mewn ymateb, dywedodd Jeremy Miles - Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd - ei fod yn rhannu pryderon Peredur ond bod "rhai gwelliannau wedi bod yn y pwysau ar yr adran achosion brys yn rhai o'r ysbytai yn Aneurin Bevan."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter