Mae AS Plaid Cymru wedi galw am system decach ar gyfer aelwydydd incwm is mewn diwygiad arfaethedig i'r dreth gyngor.
Fe wnaeth Peredur Owen Griffiths AS alwadau ar y Gweinidog Cyllid Llafur ynglyn a cynlluniau i ddiwygio'r dreth gyngor yng Nghymru - ymrwymiad a sicrhawyd gan y cytundeb cydweithredu a lofnodwyd gyda Phlaid Cymru.
Mae nifer o gynigion ar y bwrdd sy'n amrywio o ailbrisio syml i ddiwygio'r system fandio i hynny a fyddai'n gweld y rhai sydd â'r cartrefi drutaf yn talu mwy.
O dan y system bresennol, mae pobl mewn cartref Band A ym Mlaenau Gwent yn talu £1,212.13 y flwyddyn o dreth gyngor ond yn Sir Benfro neu Gaerffili byddent yn talu llai na £940 .
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Peredur: "Mae Plaid Cymru wedi bod yn glir ers peth amser bod treth y cyngor yn ei ffurf bresennol yn system atchweliadol a hen ffasiwn sy'n effeithio'n anghymesur ar aelwydydd tlotach.
"Yn wir, rwyf wedi ymgyrchu ar annhegwch strwythurol y dreth gyngor yn fy rhanbarth ers blynyddoedd lawer, ac rwy'n falch iawn y byddwn, diolch i'r cytundeb cydweithredu â Llywodraeth Cymru, yn cyflawni diwygio, sydd, fel y mae adroddiad heddiw gan yr IFS yn pwysleisio'n gywir wedi bod yn hen bryd ac mae'n ddiamwys yn syniad da.
"Bydd yn sicrhau dosbarthiad tecach o faich treth ac yn darparu rhyddhad y mae mawr ei angen ar aelwydydd sy'n cael trafferth gyda'r argyfwng costau byw parhaus."
"Fel y clywsom yr wythnos diwethaf gan nifer o arbenigwyr yng nghynhadledd dreth Llywodraeth Cymru, mae hwn yn gam cyntaf hanfodol tuag at adeiladu cyfundrefn dreth sy'n adlewyrchu anghenion ac amgylchiadau pobl Cymru yn well.
"Yn hyn o beth, mae'n iawn bod yr opsiynau posib ar gyfer ailgynllunio'r system dreth gyngor bellach yn cael eu hymgynghori, a byddwn yn annog cymaint o bobl â phosibl i roi eu barn.
"Fel y mae'r Gweinidog eisoes wedi dweud, mae hwn yn ddiwygiad cost-niwtral. Nid yw wedi'i gynllunio i gynyddu'r refeniw sydd ar gael ac mae'n cael ei siapio gan awydd i greu system fwy blaengar ar gyfer ariannu gwasanaethau lleol hanfodol yn unig."
Yn ystod ei araith, gofynnodd Peredur i'r Gweinidog Cyllid sicrhau nad oedd unrhyw system newydd yn cosbi aelwydydd ased-gyfoethog ond ariannol dlawd sy'n arbennig yn y gymunedau cefn gwlad.
Ychwanegodd: "Rwyf hefyd yn croesawu'r ymrwymiad i barhau i archwilio'r potensial ar gyfer treth gwerth tir lleol fel uchelgais hirdymor.
"Er ein bod yn amlwg yn gefnogol iawn i'r mesurau sydd o'n blaenau, rydym yn cytuno'n gryf y dylid ystyried hyn fel dechrau taith yn hytrach na'r cyrchfan derfynol, a byddwn yn parhau i gyflwyno'r achos dros ddiwygiadau pellach ar ben y system dreth gyngor hon sydd wedi'i hailgynllunio."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter