Mae AS Plaid Cymru wedi torri'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru am rwystro mesurau fyddai wedi arbed cannoedd o bunnoedd i'r aelwydydd mwyaf anghenus yng Nghymru.
Dywedodd Peredur Owen Griffiths fod bloc Llafur ar ddiwygio'r dreth gyngor wedi'i gynllunio yn golygu y bydd "y rhai sydd â'r lleiaf yn parhau i ysgwyddo baich anghymesur ar dalu treth cyngor".
Yn ei ranbarth yn Ne Ddwyrain Cymru, Peredur sy'n cynrychioli'r ddau awdurdod lleol sydd â'r taliadau treth gyngor Band D uchaf - Merthyr a Blaenau Gwent. Mae'r ddau awdurdod lleol ymhlith y rhai mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Cafodd diwygio y dreth gyngor ei roi ar yr agenda gan Blaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithredu gyda'r Llywodraeth Lafur. Fodd bynnag, gohiriwyd y cynlluniau i ddiwygio hynny ac ni fydd yn digwydd tan 2028 ar y cynharaf.
"Mae’r angen yn fawr i ddiwygio'r dreth gyngor yng Nghymru," meddai Peredur, llefarydd y blaid ar Drafnidiaeth a Llywodraeth Leol. "Byddai polisi Plaid Cymru wedi gweld y rhai sy'n gallu fforddio talu mwy yn gwneud hynny, er mwyn torri'r biliau anferth rydyn ni'n eu gweld yn rhai o rannau tlotaf Cymru.
"Dewisodd Llafur, am ryw reswm anesboniadwy, i roi newid mor flaengar ar stop am y dyfodol rhagweladwy.
"Mae hynny'n ddiffaith o ddyletswydd ar eu rhan ac yn fethiant o'r cymunedau niferus y maen nhw'n eu cynrychioli.
"Ni fyddaf i - a fy nghyd-aelodau ym Mhlaid Cymru - yn gadael i'r mater hwn orwedd a byddwn yn parhau i hyrwyddo diwygio'r dreth gyngor er mwyn sicrhau cyfiawnder i'r aelwydydd niferus sy'n ei chael hi'n anodd oherwydd cyflogau isel a'r argyfwng costau byw."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter