Arbenigwyr yn Trafod Alcohol yn y Cyfarfod Trawsbleidiol diweddaraf a gynhaliwyd gan Peredur

CPG_Alcohol.jpg

Alcohol oedd testun cyfarfod diweddaraf y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddefnyddio Sylweddau a Dibyniaeth a gynhaliwyd gan Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru.

Fel cadeirydd y grŵp, cyflwynodd yr AS dros Ddwyrain De Cymru, Dr Wulf Livingston, athro astudiaethau alcohol ym Mhrifysgol Wrecsam a Liam Cherry - cwnselydd camddefnyddio sylweddau ar gyfer Platfform.

Rhoddodd y ddau gyflwyniadau am eu gwaith yn y cyfarfod a drefnwyd gyda’r elusen trin cyffuriau Kaleidoscope.

Meddai Peredur: "Roedd y ddau gyflwyniad gan Wulf Livingston a Liam Cherry yn rhagorol ac yn rhoi cipolwg go iawn ar ddwyster y broblem yn ein cymunedau a'r atebion posibl i broblemau yfed.

"Dyma'r cyffur mwyaf gweladwy oherwydd ei fod yn gyfreithiol ac mae hefyd yn un o'r rhai mwyaf marwol a mwyaf costus o ran niwed cymdeithasol.

"Does dim llawer o bobl nad yw alcohol neu yfed problemus wedi cyffwrdd â'u bywydau, boed hynny trwy brofiad personol neu drwy brofiad y rhai sydd agosaf atynt."

Ychwanegodd Peredur: "Yr hyn a glywsom yn ystod y grŵp trawsbleidiol yw bod alcoholiaeth yn aml yn amlygiad o broblem ddyfnach er enghraifft profiad niweidiol yn ystod plentyndod neu dlodi endemig.

"Mae'r ddiod yn aml yn cael ei defnyddio fel mecanwaith ymdopi ar gyfer materion sylfaenol sy'n parhau heb eu datrys. Rhaid mynd i'r afael â'r materion hynny angen dod yn ffocws i ni yng Nghymru." 

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2023-10-26 11:19:38 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns