Croesawodd Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru ddau siaradwr blaenllaw ar fater menywod a chyffuriau yn ystod cyfarfod diweddaraf y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddefnyddio Cyffuriau a Chaethiwed.
Roedd y cyfarfod yn adeilad y Pierhead yn canolbwyntio ar 'Rethinking Drug Treatment for Women' ac roedd yn cynnwys cyflwyniadau gan Anna Millington o rwydwaith M2M a Maria Cripps o Cranstoun.
Defnyddiodd y ddwy eu profiadau personol i drafod menywod a mamau a'r rhwystrau sy'n eu hwynebu wrth gael mynediad at wasanaethau a chymorth defnyddio sylweddau.
Sefydlwyd y Grŵp Trawsbleidiol yn fuan ar ôl i Peredur gael ei ethol i'r Senedd. Peredur yw cadeirydd y grŵp ac mae cefnogaeth ysgrifenyddiaeth yn cael ei ddarparu gan yr elusen cyffuriau arloesol Kaleidoscope.
Meddai Peredur: "Roedd yn sesiwn nodweddiadol o ddifyr yn y GTB ar agwedd nad ydym wedi ei harchwilio'n lawn hyd yma. Darparodd Anna a Maria sylwadau ardderchog a chalonog am y dirwedd bresennol i fenywod a mamau sy'n cael triniaeth cyffuriau.
"Gan fod rhan helaeth o'r system cyfiawnder troseddol wedi'i chynllunio gan ddynion heb feddwl llawer am y canlyniadau i fenywod a mamau, mae'r ddarpariaeth a'r canlyniadau i fenywod wedi bod yn wael iawn yn hanesyddol.
"Nododd Anna a Maria nifer o ffyrdd y gall y system gael ei wella a oedd yn ddefnyddiol i'w nodi.
"Fel grŵp trawsbleidiol, rydym yn bwriadu ymgymryd â rhai o'r materion a'r awgrymiadau yn ddiweddarach pan fyddwn yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan mewn cyfarfod yn y dyfodol."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter