Wrth ymateb i sylwadau fod Tillery Valley Foods o Gwmtyleri mewn trafferthion ariannol, dywedodd Peredur Owen Griffiths, AS Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru: "Mae'r newyddion yma yn ergyd drom i'r gymuned leol a thu hwnt.
"I gyflogwr mor fawr a hirhoedlog mae cael amheuon ynghylch ei ddyfodol yn ddinistriol.
"Rwyf wedi cael gwybod gan aelod o staff bod y rhan fwyaf o'r gweithwyr yn lleol ac yn gallu cerdded i'r gwaith. Ychwanegodd eu bod nifer o'r gweithwyr hyn heb gar na thrwydded i yrru, sy'n golygu bod eu cyfleoedd i ddod o hyd i gyflogaeth arall yn hynod gyfyngedig.
"Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn eu gallu i ddiogelu bywoliaeth y gweithlu gweithgar ac ymroddgar hwn.
"Rwyf hefyd am i'r llywodraeth wneud yr hyn a allant i archwilio'r posibiliadau o anfon cytundebau sector cyhoeddus yng Nghymru eu ffordd gan fy mod yn gwybod bod llawer o'u gwaith yn cael ei wneud dros y ffin ar hyn o bryd.
"Drwy gynyddu caffael cyhoeddus yng Nghymru - polisi mae Plaid Cymru wedi bod yn ei ddilyn dros y ddegawd ddiwethaf - gallwn sicrhau bod mwy o swyddi'n cael eu gwarchod a bod busnesau newydd yn cael eu creu."
Yn ystod cwestiwn gan y Senedd, anogodd Peredur y Gweinidog Economi Llafur i archwilio cyfleoedd i anfon contractau'r sector cyhoeddus oddi wrth yng Nghymru y ffordd o Tillery Valley Foods.
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter