Mae Aelodau Senedd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths a Delyth Jewell wedi rhoi teyrnged i gyn Gynghorydd Cymuned Plaid Cymru fu farw'n sydyn.
Bu farw Daniel Llewellyn yn sydyn yn ei gartref yn Nhrethomas. Roedd yn dad i un plenty ac yn 36 oed.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Peredur Owen Griffiths a Delyth Jewell - sydd ill dau yn cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru: "Mae marwolaeth Daniel yn sioc fawr i bawb o fewn Plaid Cymru. Roedd yn aelod uchel ei barch, yn actifydd ac yn fwy na dim, yn ffrind i lawer yn y blaid.
"Roedd yn angerddol am achosion lleol a doedd ganddo ddim ofn torchi ei lewys a mynd yn ar ôl materion oedd yn peri pryder i’w gymuned.
"Roedd yn ymroddedig, yn frwdfrydig ac yn ffyddlon - bydd colled fawr ar ei ôl gan bawb oedd yn ei adnabod.
"Mae ein cydymdeimladau dwysaf yn mynd i'w deulu, yn enwedig ei fab ifanc."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter