Mae angen agwedd Gyson a Rhagweithiol ynglyn a Cŵn Peryglus– Peredur

Brynithel_tie_snip.PNG

Mae Aelod Senedd Plaid Cymru wedi galw ar y Llywodraeth Lafur i weithredu ar fater ymosodiadau gan gŵn.

Roedd Peredur Owen Griffiths AS yn siarad wedi digwyddiad arall ym Mhenyrheol dros y penwythnos eto a oedd yn golygu ymosodiad ar fabi pum mis oed. Yn y 18 mis diwethaf bu dau ymosodiad angheuol gan gŵn yn yr un gymuned.

Galwodd Aelod Senedd Dwyrain De Cymru ar y Llywodraeth Lafur i sicrhau bod agwedd gyson a rhagweithiol ledled Cymru o ddelio â chŵn peryglus.

Dywedodd: "Y dioddefwr yn yr ymosodiad diweddaraf hwn oedd babi pum mis oed, cafodd ei gludo i'r ysbyty am anafiadau sydd ddim yn peryglu bywyd, ac mae fy meddyliau a'm gweddïau, ac, rwy'n siŵr, meddyliau a gweddïau pawb yma, yn mynd allan i'r teulu hwnnw ar yr adeg anodd hon.

"Dim ond deuddydd cyn y digwyddiad yma, fe wnaeth cynghorydd Plaid Cymru, Steve Skivens, gynnal cyfarfod ym Mhenyrheol i drafod yr angen i daclo'r don o ymosodiadau difrifol gan gŵn yn y gymuned.

"Fe es i i'r cyfarfod, ynghyd â nifer o aelodau eraill Plaid Cymru, yn ogystal â chynrychiolwyr o sefydliadau fel y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid, swyddogion y cyngor, yn ogystal â Heddlu Gwent.

"Yn ystod y cyfarfod, daeth i'r amlwg gan yr heddlu bod yna fenter sydd wedi digwydd yn ardal Heddlu Gogledd Cymru i fynd i'r afael â chŵn peryglus a pherchnogaeth cŵn anghyfrifol, sef achos problemau sydd wrth wraidd problemau yn aml.

"Nid yw'r fenter hon wedi ei defnyddio ledled Cymru eto."

Ychwanegodd: "A allwn felly gael datganiad gan y Llywodraeth ar sut y gallwn wella diogelwch cyhoeddus a pherchnogaeth cŵn cyfrifol, gydag ymagwedd Cymru gyfan sy'n cael ei gymhwyso'n gyson ledled ein gwlad, ac, hefyd, datganiad ar ba atebion deddfwriaethol y gellir eu darparu i ni yma yng Nghymru i fynd i'r afael â'r mater hwn?"

Mewn ymateb, dywedodd Leslie Griffiths AS - y Gweinidog a'r Trefnydd Materion Gwledig - ei bod yn cadw “golwg ar y mater.”

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2023-05-03 11:17:02 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns