Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru wedi galw am weithredu ar frys gan y Llywodraeth Lafur yn dilyn ymosodiad ci peryglus arall.
Roedd Peredur Owen Griffiths yn siarad ar ôl ymosodiad ar ferch 12 oed yn Nantyglo ddydd Llun gan gi oedd yn debyg i XL Bully.
Mae'r AS dros Ddwyrain De Cymru wedi galw ar y Llywodraeth Lafur o'r blaen i gyflwyno deddfwriaeth i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn er mwyn gwella diogelwch cymunedol.
Wrth siarad yn ystod Cwestiynau Busnes, dywedodd Peredur: "Trefnydd, hoffwn gael datganiad brys gan y Llywodraeth ar unrhyw gynnydd a wnaed i gyflwyno mesurau ac efallai hyd yn oed deddfwriaeth ynghylch perchenogaeth cŵn cyfrifol yng Nghymru.
"Rwyf wedi codi'r mater hwn yn y Senedd sawl gwaith o'r blaen, gan gynnwys gyda chynnig deddfwriaethol Aelod, yn sgil nifer o ymosodiadau difrifol ac angheuol gan gŵn yn fy rhanbarth.
"Ddoe, bu ymosodiad difrifol iawn eto yn fy rhanbarth i, y tro hwn yn Nantyglo, ar ferch 12 oed gan yr hyn a oedd yn ymddangos fel ci tebyg i XL Bully.
"Mae'r anafiadau'n erchyll ac yn mynd i newid ei bywyd, ond fe allen nhw fod wedi bod yn llawer gwaeth, os nad am weithred gyflym tad y ferch a oedd yn dal y ci i lawr nes i'r heddlu gyrraedd.
"Mae angen datganiad gan y Llywodraeth yn diweddaru'r Senedd ar yr hyn sy'n digwydd o ran hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol am gŵn.
"Byddwn hefyd yn gofyn i'r gwaith ar y mater hwn gael ei gyflymu er mwyn cadw ein cymunedau a'n dinasyddion yn ddiogel."
Mewn ymateb, dywedodd y Trefnydd Jane Hutt y bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn gallu mynd i'r afael â'r mater yn ystod cwestiynau mewn sesiwn lawn sydd i ddod.
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter