Peredur yn Galw am Gario Etifeddiaeth Cyn-Filwyr Ymlaen

Brynithel_tie_snip.PNG

Mae AS Plaid Cymru wedi dweud mai teyrnged addas i'r rhai a gymerodd ran yn D-Day fyddai parhau â'u traddodiad o ymladd casineb a gormes.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths, sy'n cynrychioli Dwyrain De Cymru ac sy'n llefarydd y blaid ar ran y Lluoedd Arfog, hefyd na ddylid cyfyngu edrych allan am gyn-filwyr i un diwrnod y flwyddyn ond y dylai fod yn "broses barhaus".

Gwnaeth y sylwadau wrth ymateb i ddatganiad gan y Llywodraeth Lafur i gyd-fynd ag Wythnos y Lluoedd Arfog.

Yn ei araith, gofynnodd Peredur i'r Ysgrifennydd Cabinet Llafur pa gynnydd a fu o ran cyflwyno'r cynllun achredu meddygon teulu cyfeillgar i gyn-filwyr a sicrhau cydymffurfiaeth â'r cyfamod milwrol ledled holl fyrddau iechyd Cymru.

Ychwanegodd: "Fe frwydrodd ein lluoedd arfog - oedd yn cynnwys perthnasau yn fy nheulu i - i'n cadw ni'n ddiogel ac i ymladd yn erbyn ffasgaeth gynyddol yn Ewrop. 

"Ond ar draws Cymru a Lloegr ry'n ni wedi gweld niferoedd cynyddol o wahaniaethu a chasineb - boed hynny'n hiliaeth, ismamoffobia, gwrthsemitiaeth, homoffobia - dros y blynyddoedd diwethaf.

"Yn ystod yr Etholiad Cyffredinol hwn, rydym wedi gweld sylwadau ynghylch Hitler yn dod i'r amlwg sydd wedi arwain at ymddiheuriad gan ymgeisydd adain dde.

"Hoffwn atgoffa rhywun bod yn rhaid i ni fod yn wyliadwrus yn erbyn pob math o gasineb a gwahaniaethu, yn ogystal â chynnal gwerthoedd goddefgarwch a chynhwysiant.

"Dyma un o'r ffyrdd gorau y gallem anrhydeddu aberthau'r rhai a frwydrodd yn erbyn gormes yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

"Byddwn yn parhau i sefyll yn gadarn yn erbyn casineb a gormes yn ei holl ffurfiau,

“Byddwn yn parhau i sefyll dros yr hyn y buon nhw yn ymladd ac yn marw drosto,

“Byddwn yn parhau i’w cofio.”

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2024-06-11 17:03:32 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns