Mae AS Plaid Cymru wedi croesawu cyfyngiadau llymach ar y defnydd o gwmnïau casglu dyledion gan awdurdodau lleol.
Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS, sy'n cynrychioli Dwyrain De Cymru, fod penderfyniad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i alw ar awdurdodau lleol i ddefnyddio asiantaethau gorfodi achrededig yn unig i gasglu treth gyngor sy'n weddill yn gam blaengar.
Mae Peredur wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth Cymru i sicrhau mai dim ond asiantaethau casglu dyledion sydd wedi'u hachredu gan y “Enforcement Conduct Board” sy'n cael eu defnyddio gan gyrff cyhoeddus.
Yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog ym mis Ionawr eleni, cyfeiriodd Peredur at enghraifft menyw o Gasnewydd a oedd wedi dioddef cwmni casglu dyledion twyllodrus a oedd wedi codi cannoedd o bunnoedd arni.
Dywedodd Peredur wrth Mr Drakeford: "Mae'n ymddangos nad yw'r system a fabwysiadwyd gan rai cwmnïau casglu dyledion yn ddim mwy na raced sy'n ysglyfaethu ar y rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau."
Mae Peredur bellach wedi croesawu safiad CLlLC.
"Mae hwn yn newid mawr ei angen yng nghymdeithas Cymru," meddai Peredur.
"Mae gormod o bobl wedi cael eu twyllo gan gwmnïau casglu dyledion twyllodrus sydd wedi tynnu ffortiwn enfawr allan o'u dioddefwyr gyda thaliadau afresymol.
"Mae'n hen bryd clywed mai dim ond cwmnïau cymeradwy gaiff eu defnyddio gan awdurdodau lleol yng Nghymru i roi mwy o ddiogelwch i'n dinasyddion.
Ychwanegodd: "Hoffwn weld hyn yn cael ei gymryd ymhellach nawr fel bod pob corff cyhoeddus yn cael ei orfodi i ddefnyddio dim ond cwmnïau sydd wedi'u cymeradwyo gan y Enforcement Conduct Board."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter