Mae Peredur Owen Griffiths wedi galw ar y Llywodraeth Lafur i ymyrryd sicrhau dyfodol y diwydiant wyau yng Nghymru.
Gwnaeth yr Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru y galwadau yn ystod cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig.
Dywedodd fod prinder diweddar ar silffoedd archfarchnadoedd yn arwydd o "drafferthion dwfn" o fewn y sector a oedd angen sylw brys i'w gywiro.
Wrth siarad yn y Siambr, dywedodd Peredur: "Bydd y rhan fwyaf o bobl sydd wedi bod yn siopa bwyd dros y misoedd diwethaf wedi sylwi ar brinder wyau.
"Mae rhai cynhyrchwyr, sy'n wynebu costau ac archfarchnadoedd cynyddol sy'n gwrthod adlewyrchu hyn o fewn eu cytundebau, yn gadael y diwydiant os ydyn nhw'n gallu.
"Cafodd hyn ei wneud yn glir i mi gan gynhyrchydd wyau yn fy rhanbarth yn ystod cyfarfod diweddar. Dywedon nhw wrtha i mewn termau di flewyn ar dafod bod y sector wyau mewn trafferthion dwfn.
"Weinidog, beth y gellir ei wneud i gael gwell gydlynu yn y gadwyn gyflenwi i roi hyder i'n ffermwyr gynhyrchu ein hwyau Cymreig?
"Oni bai bod y mater hwn yn cael ei daclo, rydym yn wynebu mwy o fewnforio wyau o wyau i lenwi'r bwlch, heb sicrwydd eu bod yn cael eu cynhyrchu i'r un safon ac felly'n rhydd o facteria fel salmonela.
"Mae'n hanfodol bod wyau'n parhau i fod yn gwbl olrheiniol yn ogystal ag yn fforddiadwy, a hoffwn wybod beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem fawr yn y sector."
Wrth ymateb dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths ei bod wedi ysgrifennu at Weinidog yn Llywodraeth Dorïaidd y DU cyn y Nadolig am y mater ond ei bod yn dal i aros am ateb.
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter