Rhaid Ymyrryd mewn Argyfwng Rheoli Meddygon Teulu er Lles Meddygon a Chleifion - Peredur yn Annog Llywodraeth Lafur

New_Pred_head_shot_June_2023_small.jpg

Mae Aelod Plaid Cymru o'r Senedd wedi galw ar y Llywodraeth Lafur i ymyrryd mewn sgandal sydd wedi gweld meddygon teulu yn mynd yn ddi-dâl ac yn methu allan ar degau o filoedd o bunnau sy’n ddyledus iddynt.

Galwodd Peredur Owen Griffiths AS ar Ysgrifennydd y Cabinet Llafur dros Iechyd i gamu i fewn i ddatrys y scandal yn deillio o rheolaeth cwmni preifat EHarleyStreet o wasanaethau meddygon teulu.

Adroddwyd nad yw meddygon wedi cael eu talu am sifftiau locwm y maent wedi'u gwneud mewn meddygfeydd a reolir gan y cwmni o Sir Gaerlŷr, ac anfonebau gan rai cyflenwyr sydd heb eu talu. 

Mae nifer o feddygon wedi cysylltu â Peredur yn uniongyrchol i gwyno am eu triniaeth gan eHarleyStreet.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd: "Byddwn i'n dweud bod hyn yn sgandal, beth sy'n digwydd gyda eHarleyStreet ym Mlaenau Gwent ac ar draws bwrdd iechyd Aneurin Bevan.

"Wrth gynrychioli'r ardal, dwi wedi bod mewn cysylltiad gyda rhai o'r meddygon teulu—y 40 a mwy o feddygon teulu—mae hyn bellach yn effeithio arnyn nhw.

"Mae angen mynd i'r afael ag ef ar lefel y Llywodraeth a pheidio â gadael y bwrdd iechyd i'w ddyfeisiau ei hun wrth gywiro hyn, felly mae angen ymyrraeth gennych chi rwan, Ysgrifennydd y Cabinet.

"Siaradais ag un meddyg teulu sydd â £20,000 mewn cyflogau locwm."

Ychwanegodd Peredur: "Siaradais â meddyg teulu arall sydd bellach yn teithio o Sir Fynwy i Sir Benfro i weithio fel locwm yn hytrach na gweithio yn ein cymunedau.

"Felly ar adeg pan rydyn ni'n galw allan am feddygon, all y sefyllfa yma ddim mynd ymlaen mwyach. Gofynnaf i chi, felly, beth ydych chi'n mynd i'w wneud i fynd i'r afael â'r mater hwn ac i sicrhau nad yw'r ymddiriedolaeth mewn meddygon teulu yn cael ei erydu?

"Mae'n arian cyhoeddus sy'n cael ei wario. Mae wedi cael ei wario'n ddidwyll gan y bwrdd iechyd, yn mynd i eHarleyStreet ond wedyn ddim yn talu pobl.

"Mae'n rhywbeth y mae angen mynd i'r afael ag ef, mae angen mynd i'r afael ag ef yn gyflym iawn, iawn.

"Felly beth ydych chi'n mynd i'w wneud i sicrhau bod y meddygon teulu yma yn cael eu talu?"

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet Iechyd, Jeremy Miles: "Byddaf yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fydd gen i'r wybodaeth bellach rwy'n chwilio amdani gan y bwrdd."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2025-01-16 09:36:48 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns