Mae dau Aelod Senedd Plaid Cymru wedi bod ar daith o amgylch safleoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili i dynnu sylw at ddiffyg blaenoriaethu materion amgylcheddol.
Ymwelodd Peredur Owen Griffiths AS a Delyth Jewell AS â thri safle i weld drostynt eu hunain yn ddirywiad amgylcheddol a'r risgiau posibl sydd i drigolion lleol.
Tra'u bod yno, fe siaradon nhw hefyd gyda chynghorwyr a thrigolion lleol am effaith byw yn agos at berygl amgylcheddol.
Yn ystod y daith, ymwelodd Peredur a Delyth â safle gwaith tar adfeiliedig Thomas Ness yng Nghaerffili lle bwriedir datblygu tai er bod y tir wedi'i halogi'n helaeth, chwarel hynod wenwynig Tŷ Llwyd yn Ynys-ddu sy'n parhau i fod yn berygl iechyd ddegawdau ar ôl iddo fod yn weithredol a Hendredenny lle mae llifogydd wedi effeithio ar y trigolion.
Dywedodd Peredur fod yr ymweliad wedi ei drefnu i dynnu sylw at gyflwr bregus yr amgylchedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili a'r diffyg blaenoriaeth a roddwyd i gywiro materion brys.
"Trefnwyd yr ymweliadau hyn i dynnu sylw at gyflwr amgylcheddol bregus tri safle o fewn y fwrdeistref sirol," meddai Peredur.
"Gallem yn eithaf hawdd fod wedi ymweld â llawer mwy o ardaloedd gan nad yw pryderon y cyhoedd yn gaeth i'r tri safle hyn.
"Mae'n ymddangos bod y cyngor yn ddihid i’r pryderon dilys ynghylch safleoedd gwenwynig os ydyn nhw'n cael eu datblygu ai peidio.
"Mae'n syfrdanol i lawer o bobl eu bod hyd yn oed yn ystyried adeiladu ar hen safle tar Thomas Ness yng Nghaerffili o ystyried yr hyn a roddwyd yn y ddaear yn ystod ei oes weithredol.
"Mae angen gwneud yr ardal yn ddiogel, yn union fel y dylai chwarel Tŷ Llwyd gael ei dadlygru wedi iddi ddod yn safle gwaredu ar gyfer deunyddiau gwenwynig. Degawdau ymlaen ac mae pobl Ynys-ddu a thu hwnt yn gorfod byw gydag etifeddiaeth wenwynig y safle."
Dywedodd Delyth Jewell AS: "Roedd yn destun pryder gweld pa mor agos oedd rhai o'r safleoedd llygredig i ardaloedd preswyl, ac i glywed am sut y caiff plant eu gweld, weithiau, yn chwarae mewn dŵr sydd yn ôl pob golwg wedi'i halogi.
"Mae angen i ni godi ymwybyddiaeth ymhlith y poblogaethau lleol am y safleoedd hyn, ac yn sicr ddylen ni ddim fod yn adeiladu tai mewn mannau lle mae 'na broblem gyda llygredd.
"Yn y pen draw, mae angen i ni gryfhau'r broses gynllunio fel bod lleisiau pobl leol yn cario mwy o bwysau pan mae penderfyniadau'n cael eu gwneud."
Dywedodd y Cynghorydd Steve Skivens, a aeth gyda Delyth a Peredur ar yr ymweliad: "Mae'r tri safle a ymwelodd â nhw yn dangos pryder llawer mwy ar draws de-ddwyrain Cymru ac yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn benodol.
"Mae llawer o'r safleoedd hyn yn waddol o'n hoes ddiwydiannol yn y gorffennol. Ond eto maen nhw'n parhau i niweidio ein hamgylchedd ac effaith ar ein cymunedau heddiw.
"Mae gennym ni fel cynrychiolwyr etholedig rôl allweddol wrth geisio gwarchod ein hamgylchedd a'n cynefinoedd naturiol. Mae'r fath o dan bwysau enfawr ac yn anffodus yn dirywio yn ein hardal.
"Dylai hyn fod yn broblem bwysig ar gyfer pob cynrychiolydd etholedig neu dydyn ni ddim yn gwarchod ein cymunedau nawr na gwneud lleoedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter