Wrth ymateb i'r newyddion bod Ffos-y-Ffran ar yr 11eg awr wedi apelio y gorchymyn i'w hatal rhag cloddio glo, dywedodd Peredur Owen Griffiths, AS Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru: "Mae perchnogion y pwll glo yn trin awdurdodau cyhoeddus a thrigolion lleol gyda dirmyg llwyr.
"Maen nhw wedi bod yn ddihid i’r gyfraith gynllunio ac wedi chwarae’r system apelio er mwyn tynnu cymaint o lo ac elw o'r tir ag y gallan nhw.
"Yn y cyfamser, mae trigolion a'r amgylchedd lleol yn dioddef tra bod y mater hwn yn cael ei benderfynu yn y llysoedd."
Ychwanegodd: "Rwy'n bryderus am y cynsail peryglus y mae hyn yn ei osod ar gyfer y dyfodol. Os nad ydyn ni'n ofalus, bydd Cymru'n cael ei gweld fel lle hawdd i gorfforaethau wneud unrhyw beth a fynnon nhw."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter