Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru wedi dweud y dylai cynllun ei blaid i wella'r GIG yng Nghymru gael ei weithredu'n gyflym.
Yn ôl Peredur Owen Griffiths AS, mae gan y cynllun pum pwynt y potensial i fynd i'r afael â'r argyfwng o fewn y GIG, sydd wedi'i nodweddu gan oedi hir yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys, rhestrau aros enfawr a'r gweithlu at streic.
Heddiw, datgelodd Plaid Cymru y cynllun fydd yn cysylltu a dadl iechyd yn y Senedd yfory y bydd Peredur yn siarad ynddo.
Mae'r mesurau'n cynnwys, ond heb eu cyfyngu i'r canlynol:
- Tâl: Darparu bargen deg i weithwyr y GIG er mwyn creu’r sylfeini ar gyfer gwasanaeth iechyd a gofal cynaliadwy.
- Cadw’r Gweithlu: Gwneud ein GIG yn lle deniadol i weithio ynddo.
- Atal: Ehangu’n sylweddol y pwyslais a’r flaenoriaeth a roddir i fesurau iechyd ataliol.
- Rhyngweithio Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Mabwysiadu agwedd gynaliadwy i sicrhau symudiad di-dor o ofal iechyd i ofal cymdeithasol.
- Achub ein gwasanaeth: Creu gwasanaeth iechyd a gofal gwydn sy’n addas ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Peredur: "Mae'r Llywodraeth Lafur wedi gwrthod cydnabod yr argyfwng o fewn y GIG. Rwy'n gobeithio y byddan nhw'n sylweddoli'n gyflym maint y problemau y mae staff y GIG yn dweud wrthym ni amdanyn nhw yn rheolaidd.
"Mae potensial i'r cynigion hyn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i staff a chleifion fel ei gilydd. Nid yw gwneud dim - sydd wedi bod yn modus operandi Llafur yn rhy hir - yn opsiwn bellach.
"Mae Llafur yn awyddus i bwyntio eu bys at San Steffan - sy'n haeddu cael y bai - ond sy'n llai na awyddus i ganolbwyntio ar y newidiadau positif y gallan nhw eu gwneud.
"Er mwyn cleifion a staff, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth Lafur yn mabwysiadu'r polisïau hyn yn gyflym. Rhaid cydnabod a mynd i'r afael â'r dirywiad yn y GIG cyn gynted â phosibl er mwyn atal unrhyw ddifrod pellach i sefydliad poblogaidd."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter