Mae AS Plaid Cymru wedi galw am roi'r "llwybr diogel" a'r lloches i bobl yn Gaza sy'n ffoi rhag bomio Israel.
Gwnaeth Peredur Owen Griffiths y galwadau yn y Senedd yn ystod cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yng nghyd-destun y nifer cynyddol o farwolaethau yn Gaza.
Mae'r cynrychiolydd wedi siarad mewn gorymdeithiau a ralïau niferus yn ystod yr wythnosau diwethaf i alw am gadoediad parhaol i ddod â'r tywallt gwaed i ben.
Dywedodd: "Ers i'r trais ffrwydro yn Gaza ddechrau mis Hydref, mae nifer y marwolaethau bellach wedi mynd heibio 18,000 mewn ychydig dros ddau fis.
"Mae dadansoddiad wedi dangos bod mwyafrif y marwolaethau wedi bod yn bobol gyffredin diniwed. Mae llawer ohonynt yn blant sy'n hollol dorcalonnus.
"Dyna pam ei bod yn hanfodol sicrhau cadoediad parhaol fel y gelwir amdano yng nghynnig Plaid Cymru a drafodwyd gennym yma.
"Nes i hynny gael ei gyflawni, mae'r sefyllfa yn ansicr a dweud y lleiaf."
"Cysylltodd un o drigolion Cymru gyda theulu ym Mhalestina â Phlaid Cymru i ddweud bod mwy na 30 o aelodau o’i deulu wedi cael eu lladd yn eu cartrefi. Mae'r rhai sydd wedi goroesi, yn byw mewn pebyll.
"Mae hyd yn oed ardaloedd a ystyriwyd yn flaenorol yn "ddiogel" gan luoedd Israel, fel De Gaza, wedi dod yn dargedau di-baid, gan adael dim hafan ddiogel yn ôl Sefydliad Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig.
Ychwanegodd 'Rwy'n estyn allan atoch mewn ple enbyd am gymorth i sicrhau llwybr uniongyrchol a diogel i fy nheulu allan o Gaza ar sail dyngarol....Rydym yn gofyn am breswyliad dyngarol dros dro nes ei bod yn ddiogel iddynt ddod o hyd i ateb mwy parhaol.'
Ychwanegodd Peredur: "Weinidog, agorodd Cymru ei breichiau mewn croeso a chefnogaeth i ffoaduriaid o Syria, Affganistan ac Wcráin yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
"Pa drafodaethau y mae'r Llywodraeth hon wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i sefydlu cynllun ffoaduriaid, a sut y gallai Cymru chwarae ei rhan mewn cynllun o'r fath i gynnig llwybr diogel a noddfa i bobl Gaza sydd am ffoi o'r tywallt gwaed?"
Mewn ymateb, dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt ei bod wedi siarad yn ddiweddar gyda'i chydweithwyr yn Llywodraeth y DU a'r Alban am gynllun o'r fath.
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter