Peredur yn galw ar Lywodraeth Lafur i wneud mwy i wrthwynebu rhyfel yn Gaza

Gaza_Rally_Cardiff3.jpg

Mae AS Plaid Cymru wedi galw ar y Llywodraeth Lafur i gynyddu ei gwrthwynebiad i'r rhyfel yn Gaza.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths ei bod yn bryd i'r llywodraeth "fod yn glir ac yn benderfynol yn ei gwrthwynebiad i'r ymddygiad ymosodol parhaus yn Gaza".

Roedd yr AS dros Ddwyrain De Cymru yn siarad mewn dadl fer a gyflwynodd i'r Senedd a oedd hefyd yn cynnwys cyfraniad gan gyd-aelodau Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, Sioned Williams a Mabon ap Gwynfor.

Yn y ddadl, o'r enw Gaza - ymateb Cymreig,' disgrifiodd Peredur yr amodau creulon i filiynau o bobol Gaza.

Yn ôl Al Jazeera, mae'r doll marwolaeth ddiweddaraf yn 1,139 o bobl yn Israel a 34,979 o Balestiniaid wedi'u lladd ers 7 Hydref.

"Mewn gwirionedd, mae'r doll marwolaeth yn debygol o fod yn llawer uwch wrth i fwy a mwy o gyrff gael eu tynnu allan o'r rwbel a darganfod beddau torfol mewn dau safle claddu gwahanol y tu allan i ysbytai Nasser ac al-Shifa lle cafodd 390 o gyrff eu hadfer.

"Mae hyn yn ddinistr a thristwch ar raddfa annirnadwy. A dweud y gwir, mae'n anodd siarad amdano ac mae'n anodd ei wylio.

"Ond siaradwch amdano, mae'n rhaid i ni. Mae'n rhaid i ni dystiolaethu.  Ac mae llawer wedi teimlo eu bod wedi cael eu galw i weithredu.

"Yng Nghymru, mae'r ymateb gan nifer fawr o bobl i'r erchyllterau hyn wedi bod yn glir: Nid. Yn. Fy. Enw. I."

Ychwanegodd: "Dyw sefyll o’r neilltu, gwylio a gwneud dim byd ddim yn opsiwn pan mae canlyniadau cyrchiad Israel i Gaza mor ddifrifol.

"Rwyf wedi bod yno ar y gorymdeithiau, y ralïau ac yn y digwyddiadau codi arian. Rwyf wedi bod yn dyst i'r angerdd gan bobl sydd eisiau gwell o'r byd hwn.

"Ydy'r angerdd a'r penderfyniad hwnnw wedi cael ei amlygu gan ein Llywodraeth? Yn anffodus, nac ydynt.

"Cefais fy synnu yr wythnos diwethaf pan ddywedodd y Prif Weinidog - wrtha i, ac rwy'n dyfynnu, "Mae wedi bod yn safbwynt Llywodraeth Cymru ers peth amser y dylai fod cadoediad ar unwaith."

"Roedd hyn yn newyddion i mi. Roedd hefyd yn newyddion i fy nghyd-aelodau ac roedd yn newyddion i'r ymgyrchwyr gwrth-ryfel yr wyf mewn cysylltiad â nhw.

"Oherwydd pan ddaeth cynnig cadoediad Plaid Cymru i'r Senedd, ymatal wnaeth holl weinidogion y Llywodraeth.

"Rwy'n dal i aros am eglurhad gan y Prif Weinidog ynghylch pryd y newidiodd y safbwynt honno a sut y cafodd ei chyfathrebu.

"Yr hyn sy'n peri pryder yw nad oedd neb yn gwybod unrhyw beth amdano."

Daeth Peredur â'i araith i ben drwy ddweud: "Ar ôl mwy na chwe mis ers lansio'r rhyfel gan Israel, mae’n hen bryd cychwyn sancsiynau.

"Mae’n hen bryd atal arfogi. Mae’n hen bryd dad-fuddsoddi o gwmnïau a chynlluniau pensiwn sy'n cynnal y gwrthdaro hwn.

"Mae'r rhanbarth cyfan ar drothwy rhyfel sy'n llawer mwy na'r hyn rydyn ni'n ei weld ar hyn o bryd. Rhaid stopio hyn cyn iddo fynd ymhellach.

"Mae'n ddyletswydd ar y gymuned ryngwladol i adlewyrchu barn y bobl maen nhw'n eu gwasanaethu a dweud bod "digon yn ddigon."

"Gall Cymru chwarae ei rhan yn yr ymdrech honno. Rwy'n galw ar y Llywodraeth Lafur hon i fod yn glir ac yn benderfynol yn ei gwrthwynebiad i'r ymddygiad ymosodol parhaus yn Gaza. 

"Mae hynny'n dechrau gyda galwad glir am gadoediad ar unwaith a pharhaol, a fydd yn caniatáu i'r gwaith dyngarol enfawr ddigwydd.

"Mae angen i hyn ddigwydd er mwyn pobl Gaza.

"Mae angen iddo ddigwydd er mwyn y gwystlon sy'n dal i gael eu dal.

"Ac mae angen iddo ddigwydd er mwyn heddwch a dynoliaeth."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2024-05-01 18:57:12 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns