Treuliodd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth a'r aelod rhanbarthol Peredur Owen Griffiths amser gyda mentoriaid dan hyfforddiant gyda Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent (GDAS).
Galwodd Aelodau'r Senedd i swyddfeydd GDAS yn ystod diwrnod gan ymweld â busnesau a phrosiectau yng Nghasnewydd.
Yno, treuliasant amser yn gwrando ar brofiadau dynion a menywod sy'n cael eu hyfforddi i ddarparu mentora ar gyfer cleientiaid GDAS sy'n chwilio am help ar gyfer eu dibyniaeth.
Mae llawer o'r darpar fentoriaid wedi ymladd eu caethiwed eu hunain cyn dod yn sobr.
Dywedodd Peredur wedi'r ymweliad: "Roedd yn brofiad gostyngedig clywed am y llwybr i sobrwydd y mae llawer o'r bobl hyn wedi'i gymryd.
"Maent fel arfer wedi cyrraedd “rock bottom” cyn ceisio cymorth a chael eu bywyd yn ôl ar y trywydd iawn diolch i ymagwedd anfeirniadol, tosturiol ac arbenigol GDAS.
"Ar ôl dod yn sobr, mae'r dynion a'r menywod caredig hyn nawr yn ceisio rhoi rhywbeth yn ôl a helpu eraill sydd yn yr un sefyllfa ag yr oedden nhw ar un adeg."
Ychwanegodd Peredur: "Roedd Rhun a minnau yn teimlo bod y sesiwn yn ysbrydoledig ac yn codi calon gan fod y dewrder a'r anhunanoldeb y mae'r dynion a'r menywod hyn wedi'i ddangos yn rhyfeddol.
"O'm hamser gyda nhw, mae'n amlwg y byddan nhw'n fentoriaid ystyriol a diwyd a fydd yn y man gorau i helpu eraill oherwydd eu dealltwriaeth bersonol o'r hyn sydd ei angen i oresgyn dibyniaeth.
"Rwy'n cymeradwyo GDAS am hyfforddi'r bobl ryfeddol hyn a pharhau â'u gwaith rhagorol ym maes mynd i'r afael â dibyniaeth."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter