Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru wedi beirniadu'r setliad cyllideb a allai olygu bod "pobl fregus yn mynd i ddioddef".
Roedd Peredur Owen Griffiths AS, llefarydd Plaid Cymru dros Lywodraeth Leol a Chyllid, yn ymateb yn sgil dadorchuddio cyllideb ddrafft Llywodraeth Lafur ar gyfer 2024/25.
Wrth siarad ar ôl holi Gweinidog Cyllid Llafur yn ystod y Pwyllgor Cyllid y mae'n ei gadeirio, dywedodd Peredur: "Er gwaethaf y cynnydd cymedrol mewn cyllid, mae hon wedi bod yn gyllideb anodd i awdurdodau lleol ledled Cymru.
"Oherwydd anhydred a dideimlad y Torïaid yn San Steffan - sydd wedi ei waethygu gan gamreoli ariannol y Llywodraeth Lafur yng Nghymru - gofynnir i gynghorau wneud mwy gyda llai.
"Dyma pam y galwodd Plaid Cymru hon yn gyllideb anghynaladwy. Mae gwasanaethau rheng flaen yn mynd i ddod dan bwysau anhygoel a bydd awdurdodau lleol yn wynebu'r dasg annymunol o benderfynu pa wasanaeth hanfodol i'w torri.
"Mae yna ofn y bydd llawer o gynlluniau sy'n arbed arian yn y tymor hir, yn cael eu torri i leihau'r llinell waelod yn y tymor byr. Gallai hyn gael goblygiadau mawr i awdurdodau lleol yn y tymor hir.
"Mae pobl fregus - sydd angen help a chefnogaeth eu hawdurdod lleol - yn mynd i ddioddef yn y tymor hir o ganlyniad i setliad y gyllideb.
"Rwy'n gwybod y bydd fy nghydweithwyr Plaid Cymru sy'n arwain cynghorau ledled Cymru yn gweithio'n ddiflino i leihau'r effaith ar drigolion lleol a gwneud y gorau o sefyllfa anodd.
"Dyna pam mae Plaid Cymru eisiau datganoli mwy o rymoedd i Gymru fel y gallwn ni insiwleiddio ein hunain yn well o benderfyniadau Prif Weinidog y DU nad yw'n poeni fawr ddim am anghenion pobl yng Nghymru."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter