Wrth ymateb i'r newyddion bod Ysbyty’r Grange unwaith eto wedi rhyddhau'r corff anghywir i deulu, dywedodd Peredur Owen Griffiths - AS Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru: "Pan ddaeth newyddion am y gwall cyntaf gyda chorff i'r amlwg fis Rhagfyr diwethaf, roeddwn yn gobeithio y byddai'n ddigwyddiad ynysig.
"Rydym bellach wedi darganfod ei fod wedi digwydd eto tua'r un adeg â'r digwyddiad cyntaf. Mae hwn yn ddigwyddiad pryderus iawn na fydd yn gwneud fawr ddim i sicrhau hyder y cyhoedd yng nghymhwysedd yr ysbyty.
"Rwy'n gwerthfawrogi bod gweithdrefnau wedi tynhau ers i'r camgymeriadau ddod i'r amlwg gyntaf ond mae angen ailasesu'r prosesau oherwydd yn amlwg roedd gwallau difrifol a sylweddol yn y ffordd y cafodd pethau'u rhedeg. Ni all hyn ddigwydd eto.
"Byddaf yn ceisio codi'r mater hwn gyda'r Llywodraeth Lafur sy'n gyfrifol am iechyd yng Nghymru."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter