Peredur yn "Siomedig Iawn" ar ôl i Wasanaeth Bws Ysbyty Gael ei Dynnu

Grange_pic.jpg

Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru wedi beirniadu'r penderfyniad i gael gwared ar gyswllt bws uniongyrchol i ysbyty fawr.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS ei bod yn "siomedig iawn" nad yw Stagecoach bellach yn rhedeg y gwasanaeth bws 21 rhwng y Coed Duon ac Ysbyty Grange. Roedd y gwasanaeth bob awr hefyd yn galw yn Nhrecelyn, Crumlin, Llanhilleth, Hafodyrynys, Pont-y-pŵl a Griffithstown.

Dim ond yn ail wythnos Gorffennaf y llynedd yr oedd y gwasanaeth wedi dechrau mewn ymateb i feirniadaeth eang am anhygyrchedd yr ysbyty £350m yn Llantarnam ar gyfer y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu.

Ariannwyd y gwasanaeth gan y Llywodraeth Lafur.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths fod hyn yn "ergyd chwerw" i'r cymunedau ar hyd a lled y cymoedd.

"Mae'n siomedig iawn nad yw'r gwasanaeth hwn bellach yn weithredol," meddai.

"Cafodd ei gyhoeddi i ffanffer mawr gan y Llywodraeth Lafur yr haf diwethaf ac fe wnaeth nifer o ASau Llafur y meinciau cefn ganmol ei chyraeddiad.

"Maen nhw wedi mynd yn rhyfedd o dawel rwan bod y gwasanaeth ddim mwy."

Ychwanegodd: "Yn ogystal â'r aros hir am driniaeth sydd wedi dod yn gyfystyr ag Ysbyty Grange, mae ei anhygyrchedd wedi bod yn un o'r cwynion mwyaf am yr ysbyty blaenllaw hwn ers iddo agor bron i bedair blynedd yn ôl.

"Mae trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy sy'n gwasanaethu'r ysbyty hwn yn hanfodol i'r cymunedau rwy'n eu cynrychioli o ystyried y perchnogaeth car isel sydd gan lawer ohonyn nhw.

"Bydd hyn yn ergyd drom am obeithion y byddai cysylltedd â'r ysbyty yn gwella, nid yn waeth.

"Y realiti yw y bydd llawer o bobl nawr yn gorfod dal o leiaf dau fws a threulio cryn dipyn o amser yn cyrraedd yr ysbyty - boed hynny ar gyfer apwyntiad neu i ymweld â theulu neu ffrindiau - os nad oes ganddyn nhw gar.

"Mae hynny'n annheg a byddaf yn parhau i dynnu sylw at y mater."

 

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2024-02-20 17:06:02 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns