Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru wedi codi'r diffyg llwybr bws uniongyrchol o Fwrdeistref Sirol Caerffili i Ysbyty Grange yn y Senedd.
Peredur Owen Griffiths - sy'n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru - ddaeth â'r mater i fyny ar ôl i'w swyddfa ddarganfod yn ddiweddar fod y llwybr wedi ei ddileu wedi treial chwe mis a ariannwyd gan Lywodraeth Lafur.
Yn y Senedd, dywedodd Peredur: "Mae hyn yn newyddion siomedig nid yn unig i bobl ardal y Coed Duon ond hefyd yn Nhrecelyn, Crumlin, Llanhilleth, Hafodyrynys, Pont-y-pŵl a Griffithstown, wrth i'r bws stopio yn y cymunedau hyn ar y ffordd.
"Ar wahân i fod yn ergyd fawr i hygyrchedd yr ysbyty, mae hyn hefyd yn ergyd fawr i'n hymdrechion i leddfu'r argyfwng hinsawdd.
"Y gwir amdani yw, i lawer o bobl rwy'n eu cynrychioli yn fy rhanbarth i, mai car preifat yw'r unig opsiwn ymarferol o ran cyrraedd ac o'r Ysbyty Grange.
"I'm hetholwyr heb gar, ydyn nhw'n gobeithio am well na dau neu fwy o fysiau maen nhw'n gorfod eu dal os ydyn nhw am gyrraedd y Grange yn y dyfodol?
"Ac a allwch chi hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf am beth mae unrhyw werthusiad o gynlluniau peilot yng Nghasnewydd neu rywle arall yn y de-ddwyrain wedi'i gael ar eich cynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus?"
Mewn ymateb, cyfaddefodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, y dylai'r llywodraeth fod wedi ariannu'r cynllun peilot am fwy na chwe mis.
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter