MS Plaid Cymru yn galw am rymuso Cymunedau yn y system gynllunio

edit2.jpg

Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru wedi galw am rymuso preswylwyr o ran gwrthwynebu ceisiadau cynllunio.

Defnyddiodd Delyth Jewell, sy'n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru, esiampl y cais cynllunio dadleuol i godi 260 o gartrefi yn Hendredenni.

Yn ystod cwestiynau'r Senedd i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, dywedodd Delyth fod y cais wedi achosi rhwystredigaeth yn y gymuned leol ar ôl iddo gael y golau gwyrdd ar apêl i Lywodraeth Cymru er bod gwrthwynebiad llethol wedi ei gwrdd yn lleol. 

Yn siarad y prynhawn yma, dywedodd Delyth: "Yn 2017, fe wnaeth Llywodraeth Cymru wrthdroi penderfyniad cyngor Caerffili i wrthod cais i godi 260 o gartrefi yn Hendredenni.

"Gwrthwynebwyd y cais gan drigolion, cynrychiolwyr ward, yr AS'au lleol, ac eto fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddiystyru'r consensws lleol.

"Yn y llythyr penderfynu, fe wnaeth y Gweinidog ar y pryd argymell amod y dylai'r cynllun gynnwys nodweddion draenio strategol a chynllun ar gyfer gwaredu dŵr gwasanaethau a llif draenio tir, gan roi cyfrifoldeb am gymeradwyo'r cynlluniau ar y cyngor.

"Ond chwe blynedd yn ddiweddarach, mae gennym CNC yn ymchwilio i adroddiadau bod dŵr yn gor-redeg gan lygru tir preswylwyr lleol, ac mae ofnau y gallai hyn fod wedi effeithio ar afon gyfagos, Nant yr Aber hefyd.

"Yn ogystal, mae ofnau am anhrefn traffig wedi eu gwireddu, ac mae pryderon ynghylch gallu gwasanaethau lleol i ddarparu ar gyfer cannoedd o drigolion newydd yn parhau."

Gofynnodd hefyd i'r Gweinidog ystyried y newidiadau y "gellid eu gwneud i'r system gynllunio i roi'r pŵer i gymunedau wneud penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw heb ofnau o gael eu diystyru gan Gaerdydd?"

Mewn ymateb, atebodd y Gweinidog Julie James ei bod hi'n deall y "rhwystredigaethau" hynny, a bod ymdrechion i sicrhau bod cymunedau lleol yn cymryd rhan yn gynnar wrth ffurfio Cynlluniau Datblygu Lleol.

Ar ôl hynny, dywedodd Peredur Owen Griffiths AS, cyd-aelod o'r Senedd Delyth: "Mae Delyth yn iawn i godi'r mater hwn yn y Senedd oherwydd rydym wedi gweld nifer o geisiadau cynllunio yn cael eu gwrthod gan awdurdodau lleol ar ôl gwrthwynebiad taer lleol, dim ond iddyn nhw gael eu caniatáu yn ddiweddarach ar apêl gan Lywodraeth Cymru.

"Mae hyn yn arwain at ddicter, dryswch a cholli ffydd yn y broses ddemocrataidd.

"Nid yw hyn yn sefyllfa iach felly rwy'n gobeithio bod y Llywodraeth Lafur yn ystyried o ddifrif ffyrdd y gellir grymuso cymunedau i wrthwynebu ceisiadau cynllunio; yn enwedig y rhai y maen nhw'n gwybod fydd yn niweidiol yn y tymor hir oherwydd eu gwybodaeth leol well."

Dywedodd y Cynghorydd Plaid Cymru Steve Skivens: "Dim ond un o nifer o safleoedd problemus yw hwn yn ardal CCBC, ond mae patrwm yn dod i'r amlwg.

“Mae materion amgylcheddol, pryder trigolion a chynrychiolyddion a'r budd i'r gymuned bresennol ac effeithiau ar genedlaethau'r dyfodol yn ymddangos yn eilradd i adeiladu tai torfol a datblygiadau eraill gan y weinyddiaeth Lafur.

"Mae'n teimlo fel methiant democratiaeth yn ein hardal ac yn diystyrru polisïau cynllunio sydd wedi eu creu gan Lywodraeth Cymru."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2023-02-10 09:44:11 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns