Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi mesurau ar waith mewn ysgolion i liniaru yn erbyn Islamoffobia.
Mae Peredur Owen Griffiths wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet Llafur dros Addysg wedi rhybuddio na ddylem laesu dwylo yng Nghymru ar ôl i'r wlad osgoi'r terfysgoedd Islamoffobig a oedd yn amgylchynu llawer o gymunedau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae'r AS ar gyfer De-ddwyrain Cymru yn pryderu y gallai disgyblion o deuluoedd Mwslimaidd gael eu targedu yn sgil llanw cynyddol o gasineb ar rai platfformau cyfryngau cymdeithasol.
Wrth ysgrifennu at Lynne Neagle, dywedodd Peredur: ‘Rwy'n ysgrifennu atoch yn dilyn y terfysgoedd Islamoffobig sydd wedi cael eu gweld mewn llawer o gymunedau ledled Lloegr a Gogledd Iwerddon dros yr haf.
‘Mae wedi bod yn rhyddhad mawr nad ydym wedi gweld golygfeydd mor annifyr yng Nghymru sy'n dyst i'r ymdrechion i hyrwyddo cydlyniant cymunedol ar draws nifer o wahanol lefelau.
‘Fodd bynnag, ni ddylem fod yn hunanfodlon. Dylem hefyd fod yn ymwybodol o'r ffaith bod digwyddiadau ynysig o fosgiau'n cael eu fandaleiddio dros yr haf yn ein cymunedau.
‘Rwyf wedi bod yn siarad â ffrindiau Mwslimaidd yng Nghasnewydd a Chaerdydd am rai digwyddiadau sydd wedi arwain at arestiadau."
Ychwanegodd: ‘Er fy mod yn gwerthfawrogi nad yw cydlyniant cymunedol yn dod o dan eich portffolio, rwy'n pryderu am y posibilrwydd o gynyddu Islamoffobia a hiliaeth yn ein hysgolion pan fyddant yn agor yn ôl ar ôl gwyliau'r haf.
‘Mae llawer o bobl ifanc wedi bod yn agored i rywfaint o'r camwybodaeth ffiaidd sy'n gwneud y rowndiau ar rai platfformau cyfryngau cymdeithasol.
‘Mae'n hollbwysig bod ein hysgolion yn parhau i fod yn llefydd diogel i blant neu blant nad ydynt yn wyn o deuluoedd Mwslimaidd - neu unrhyw grefydd o ran hynny - fynychu os ydym am gynnal cytgord ar draws ein cenedl.
‘O ystyried y digwyddiadau diweddar hyn, rwyf am wybod pa waith paratoi rydych wedi'i wneud i sicrhau bod gan ein hysgolion yr offer i ddod o hyd i gamdriniaeth o'r math hwn a delio ag ef yn gyflym?
'A oes cynlluniau hefyd i gynyddu rhaglenni addysg gwrth-hiliol a gwrth-Islamoffobia o fewn ein hysgolion i sicrhau bod plant yn gwybod bod cam-drin unrhyw un sy'n seiliedig ar liw croen neu grefydd yn gwbl annerbyniol?
‘Byddwn yn ddiolchgar o glywed am unrhyw beth y byddwch yn bwriadu ei wneud i fynd i'r afael a hyn o ganlyniad i beth allai ein plant fod wedi dod i gysylltiad ag ef dros yr haf.’
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter