Peredur yn canmol prosiect newydd sydd â'r nod o atal ymddygiad ymosodol gan gŵn

LEAD_initiaitve_launch.jpeg

Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru wedi croesawu menter sydd â'r nod o hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn.

Mynychodd Peredur Owen Griffiths AS lansiad LEAD Caerffili (Local Environmental Awareness on Dogs) yn Siambr Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Hefyd yn bresennol roedd Emma Whitfield y cafodd ei mab Jack Lis ei glwyfo'n angheuol mewn ymosodiad gan gi XL Bully ym Mhenyrheol ym mis Tachwedd 2021. Flwyddyn yn ddiweddarach, cafodd Shirley Padrig, 83 oed, ei ymosod arni gan gi ym Mhenyrheol a bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach o'i hanafiadau.

Dywedodd Peredur fod y lansiad yn benllanw gwaith caled yng nghymuned Penyrheol gan nifer o bobl.

"Rwy'n obeithiol y gall y fenter hon gael effaith wirioneddol ar draws nifer eang o gymunedau ond yn enwedig ym Mhenyrheol sydd wedi'i nodi gan nifer o ddigwyddiadau trasig yn ymwneud â chŵn ymosodol," meddai Peredur.

"Mae llawer o hyn wedi cael ei yrru gan ddycnwch a dewrder Emma Whitfield am ei gwaith ymgyrchu anhygoel yn y maes hwn yn dilyn y drasiedi bersonol fwyaf ofnadwy.

"Mae hi'n ysbrydoliaeth wirioneddol.

"Rwyf hefyd am ddiolch i Gynghorydd Skivens sydd wedi bod ar flaen y gad yn gyrru'r prosiect hwn, gan ddod â'r gymuned, yr heddlu, swyddogion yr Awdurdod Lleol a nifer o elusennau lles anifeiliaid ynghyd i gyrraedd y pwynt lle rydym heddiw."

Ychwanegodd Peredur: "Byddwn yn parhau i hyrwyddo'r achos hwn o fewn y Senedd ac yn edrych ar ffyrdd y gallwn gefnogi'r prosiect hwn o fewn fframwaith cyfraith Cymru." 

Dywedodd y Cynghorydd Skivens: "Mae'r ymgyrch wedi bod mewn cydnabyddiaeth o'r hyn ddigwyddodd gyda Jack Lis a Shirley Patrick. Nid wyf am i'r sefyllfa hon ddigwydd i unrhyw un arall.

"Mae'r digwyddiadau hyn wedi cael effaith enfawr ar y gymuned. Os ydych chi'n penderfynu bod yn berchen ar gŵn mawr, ymosodol yna mae'n rhaid i chi allu eu rheoli."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2023-09-22 11:38:43 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns