Annwyl ffrind,
Wrth i ni nesáu at etholiad mewnol Plaid Cymru, roeddwn i eisiau cymryd munud neu ddau i rannu gyda chi pam fy mod yn credu mai fi yw'r ymgeisydd gorau i gynrychioli ein plaid a bod yn rhif 1 ar y rhestr ar gyfer Casnewydd Islwyn yn etholiad Senedd 2026.
Ers fy ethol i'r Senedd yn 2021, rwyf wedi gweithio'n ddiflino i adeiladu ein plaid yn lleol. Boed hynny wrth annog cyfarfodydd rheolaidd mewn etholaethau fel Casnewydd, cefnogi isetholiadau ac ymgyrchoedd yn Islwyn, i fod yn allweddol wrth greu Cynhadledd y Cymoedd gyntaf erioed i’n plaid ym Merthyr sydd wedi mynd o nerth i nerth. Rwy'n gwybod mai ein haelodau yw asgwrn cefn ein plaid a’n hased fwyaf gwerthfawr.
Adeiladu Pontydd
Fel adeiladwr pontydd naturiol, rwyf wastad yn awyddus i feithrin cysylltiadau da i fewn a'r thu hwnt i'r Blaid. Blaenoriaeth barhaol i mi yw neilltuo amser i fod allan yn ein cymunedau, gan gynnwys cymorthfeydd stryd rheolaidd ar draws ein rhanbarth. Mae'r ymweliadau hyn wedi fy ngalluogi i gysylltu â miloedd o drigolion, mynd i'r afael â'u pryderon a dangos ein hymrwymiad i ymgysylltu ar lawr gwlad gan atgyfnerthu enw da Plaid Cymru fel plaid sy'n lais i'w chymunedau. Rwy'n credu y bydd y gwaith hwn yn paratoi'r ffordd ar gyfer canlyniadau etholiadau gwych a gobeithio caf y cyfle i barhau â'r gwaith hwn ar draws Casnewydd Islwyn ar ôl etholiad 2026.
Dal y Llywodraeth Lafur i gyfrif
Dros y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi ymrwymo i ddal y Llywodraeth Lafur yn atebol ar amryw o faterion beirniadol. O fynd i'r afael â'r heriau yn Ysbyty y Grange i alw am gyfiawnder ariannol i Gymru o ran ein cyllid trafnidiaeth, rwyf wedi brwydro'n gyson dros les ein cymunedau a'n cenedl. Mae fy ymdrechion i gefnogi'r economi - o ddiwydiannau enfawr fel y diwydiant lled-ddargludyddion yng Nghasnewydd i fusnesau bach fel y feithrinfa Gymraeg gyntaf yn y ddinas - wedi bod yn gryf ac yn ddi-sigl. Fel cadeirydd Pwyllgor Cyllid y Senedd, nid yn unig y mae wedi bod yn anrhydedd enfawr fy mod wedi cael fy ethol i'r rôl hon, gan ennill cefnogaeth drawsbleidiol wrth wneud hynny, rwyf wedi bod yn ddiwyro wrth ddwyn y Llywodraeth Lafur i gyfrif dros eu cyllideb a'u deddfwriaeth.
Llais Rhyngwladol
Mae fy record hefyd yn dangos fy mod i'n awyddus i sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed ar y llwyfan rhyngwladol. Rwyf wedi bod yn llafar am y gwrthdaro yn Gaza, fel un o'r rhai cyntaf i eirioli dros gadoediad a chondemnio'r ymateb anghymesur gan Israel i ymosodiad Hamas ar Hydref y 7fed. Roedd y gwaith cynnar hwnnw yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod y Senedd yn un o'r Seneddau cyntaf yn y byd i alw am gadoediad. Roedd hyn yn rhywbeth a atseiniodd yn uchel ac yn glir ym Mhalestina fel y dywedodd Husam Zomlot - Llysgennad Palesteina i'r DU - wrthyf yn bersonol.
Senedd 2026 – Croesffordd a Cyfle
Ffrindiau, mae etholiad nesaf y Senedd yn cynrychioli croesffordd i'n cenedl. O siarad â phobl ar garreg y drws ac mewn digwyddiadau cymunedol, rwyf yn gweld sut mae cefnogaeth i Lafur yn diflannu yn eu cadarnleoedd. Ond, yn aros yn i fanteisio mae’r adain dde eithafol sy'n fwy trefnus ac wedi'u hariannu'n well nag erioed o'r blaen. Mae'n hanfodol felly bod Plaid Cymru yn cael etholiad egnïol a chryf i lenwi'r gwagle yng ngwleidyddiaeth Cymru sydd wedi cael ei hepgor gan Blaid Lafur fwyfwy didostur.
Os ydym am sicrhau ein nod o annibyniaeth i Gymru, mae'n rhaid i ni ddenu calonnau a meddyliau pobl mewn etholaethau fel Casnewydd Islwyn sy'n chwilio am ddewis arall gwleidyddol. Os gall Plaid Cymru ennill yma, gallwn ennill ar draws Cymru a chymryd cam yn nes at ennill refferendwm ar annibyniaeth.
Senedd 2026 a thu hwnt
Mae arnom angen pobl sydd â phrofiad yn ein Senedd os yw Plaid Cymru am ffurfio'r llywodraeth nesaf: Pobl sydd â profiad o weithio i sicrhau bod llais ein plaid yn cael ei glywed yn glir, ond hefyd bod lleisiau ein cymunedau yn cael eu clywed yn y Senedd.
Rwy'n gobeithio y gallaf ddibynnu ar eich cefnogaeth i fod yn ymgeisydd arweiniol a'ch dewis rhif 1 ar gyfer tîm Islwyn Casnewydd yn etholiad Senedd 2026.
Os hoffech drafod hyn neu unrhyw fater arall, mae croeso i chi gysylltu â mi ar [email protected].
Diolch am eich amser a'ch ystyriaeth.
Yn ddiffuant
Peredur Owen Griffiths
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter