Wrth ymateb i Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro Llywodraeth Cymru 2025-26, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Lywodraeth Leol, Peredur Owen Griffiths: “Er mwyn llenwi'r twll ariannol o £559 miliwn achoswyd gan gamreoli Llafur, roedd angen cynnydd o 7% o leiaf mewn cyllid ar awdurdodau lleol i gynnal y gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y maent yn eu darparu, heb sôn am ddechrau ar y gwelliannau hanfodol yn y gwasanaethau hyn.
“Yn syml, nid yw'r cyhoeddiad heddiw yn mynd yn ddigon pell i leddfu'r cyfyngiadau cyllidebol sy'n wynebu cynghorau yng Nghymru, a bydd yn eu gorfodi i wneud penderfyniadau anodd ar ddyfodol gwasanaethau cyhoeddus sydd eisoes wedi'u torri, gyda rhai ohonynt wedi diflannu'n llwyr.
“"Ar yr un pryd - mae cynnydd Llywodraeth Lafur y DU i gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn peri ansicrwydd i gynghorau, gan y gallai fod rhaid iddyn nhw ysgwyddo baich y costau ychwanegol hyn. Mae pob diwrnod o dawelwch gan Lafur ar hyn yn ei gwneud hi'n anoddach i'n cynghorau gynllunio.
“"Mae Llafur - yn San Steffan ac yng Nghymru yn gorfodi awdurdodau lleol i mewn i sefyllfa ble mae'n bosib bydd rhaid codi treth cyngor, ac mae'n bosib y bydd yn rhaid cwtogi ar wasanaethau cyhoeddus. Mae Llafur yn dwysáu sefyllfa argyfyngus awdurdodau lleol - a'r cyhoedd fydd yn teimlo'r baich."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter