Dylai Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol Ganu Larwm i Lafur – Peredur

Peredur_profile_pic_pro.PNG

Wrth ymateb i adroddiad Archwilio Cymru sy'n dangos bod risgiau sylweddol i gyllid awdurdodau lleol ledled Cymru, dywedodd Peredur Owen Griffiths AS bod angen gweithredu ar frys gan Lywodraeth Lafur yng Nghymru a Llundain.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Lywodraeth Leol fod sylwadau gan yr Archwilydd Cyffredinol Adrian Crompton, "na allwn gymryd yn ganiataol y bydd llywodraeth leol yn parhau i fod yn gynaliadwy yn ariannol" ac "nad oes gan gynghorau gynlluniau tymor hir mewn lle" i fynd i'r afael â bylchau cyllid, yn canu clychau larwm i rengoedd Llafur.

Dywedodd Peredur: "Rwyf wedi siarad â llawer o bobl mewn llywodraeth leol dros gyfnod y blynyddoedd diwethaf ac mae'n amlwg bod y sefyllfa ariannol yn dod yn fwyfwy ansicr.

"Mae cyni Torïaidd dros ddegawd a hanner wedi torri nifer o adrannau'r cyngor i'r byw. Beth bynnag ddywed Prif Weinidog Llafur yng Nghymru i'r gwrthwyneb, mae'r Llywodraeth Lafur yn San Steffan wedi parhau a'r ideoleg wleidyddol ddifrïol hon.

"Mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweiddi allan am fewnlifiad enfawr o arian ac mae'n hanfodol bod y Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn troi ar y llif ariannol i lywodraeth leol ar frys.

"Dylai'r adroddiad hwn wir ganu clychau larwm yn adrannau'r llywodraeth yn San Steffan ac ym Mharc Cathays.

"Byddai ei anwybyddu yn peryglu hyfywedd ariannol llawer o'n hawdurdodau lleol, yn ogystal â tharo'r rhai mwyaf bregus mewn cymdeithas fwyaf."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2024-12-05 12:08:19 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns