ASau Plaid Cymru'n galw am wella gofal i gleifion canser

edit6.jpg

Mae dau o ASau Plaid Cymru wedi cefnogi galwadau ar y Llywodraeth yng Nghymru i wella gofal lliniarol y tu allan i oriau swyddfa.

Mae Peredur Owen Griffiths a Delyth Jewell wedi dweud bod pobl sydd â chanser a'u teuluoedd angen - ac yn haeddu - mynediad at linell gymorth 24 awr y dydd.

Mae'r galwadau wedi'u gwneud gan elusen ganser Marie Curie a ddywedodd fod pobl yn eu blwyddyn olaf o fywyd yn gwneud 30,000 o ymweliadau brys bob blwyddyn yng Nghymru.

Fe wnaethant hefyd ddarganfod bod menywod o dan 65 oed sy'n byw mewn cymunedau difreintiedig yn fwy tebygol o fod angen ymweliad brys y tu allan i oriau ag A&E yn eu blwyddyn olaf yn eu bywyd.

Gall mynediad at ofal lliniarol a diwedd oes o ansawdd yn y gymuned helpu i bobl i aros gartref i farw os mai dyna yw eu dewis.

Yn ôl Peredur: "Mae'n afresymol disgwyl i bobl â chanser fod angen y cymorth a'r gofal sydd eu hangen arnynt yn ystod oriau swyddfa yn unig.

"Dylai pob bwrdd iechyd gael llinell ffôn arbennig yn rhedeg saith diwrnod yr wythnos a 24 awr y dydd fel bod rhywun wrth law i gynnig cymorth a gwasanaethau ar y pwynt penodol y mae eu hangen.

"Nid yn unig fyddai hyn y peth tosturiol i'w wneud i bobl â chanser a'u teuluoedd ond byddai hefyd yn lleddfu'r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys fel sy’n hysbys wedi cael problemau capasiti.

"Dylai'r Gweinidog Iechyd Llafur weithredu ar hyn fel mater o frys."

Galwodd Delyth hefyd ar y Llywodraeth Lafur i fynd i'r afael â'r effaith niweidiol y mae amddifadedd yn ei gael ar bobl â chanser.

"Mae angen cynllun gweithredu hirdymor dan arweiniad y Llywodraeth Lafur i wella gofal diwedd oes," meddai Delyth.

"O fewn y cynllun hwnnw, mae angen strategaeth arnom i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n wynebu menywod mewn gofal lliniarol a gofal diwedd oes.

"Ni ddylem dderbyn sefyllfa ble mae loteri cod post o ran canlyniadau iechyd.

"Gellir mynd i'r afael â hyn drwy gynnwys strategaeth i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn y cynllun 10 mlynedd Iechyd Menywod a Merched sydd ar ddod."

Dywedodd Natasha Wynne, Uwch Reolwr Polisi Marie Curie Cymru: "Mae cyfle go iawn yng Nghymru i ddatrys y problemau sy'n deillio o ofal tu allan i oriau trwy weithredu'r Datganiad Ansawdd Gofal Lliniarol a Diwedd Oes diweddar.

"Mae hyn yn dweud y dylai pawb, waeth ble maen nhw'n byw, gael 24/7 pwynt mynediad sengl i ofal wedi'i gydlynu, meddyginiaeth, a chyngor am ofal diwedd oes."

Bu Delyth a Peredur hefyd yn annog pobl i gefnogi Marie Curie drwy gynnal eu 'Diwrnod Cennin Pedr' eu hunain i godi arian hanfodol drwy ddosbarthu pinnau cennin Pedr yr elusen yn gyfnewid am roddion.

Bydd unrhyw un sy'n dymuno cynnal Diwrnod Cennin Pedr yn cael cefnogaeth gan dîm codi arian Marie Curie cyn gynted ag y byddant yn cofrestru i wirfoddoli, a bydd yr holl arian a godwyd yn helpu Marie Curie i barhau i ddarparu gofal diwedd oes hanfodol i bobl derfynol wael a'u teuluoedd yn ystod eu dyddiau, wythnosau a misoedd olaf.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn Apêl Fawr y Daffodil neu gynnal Diwrnod Cennin Pedr fel unigolyn, grŵp cymunedol, ysgol neu fusnes ar draws Dwyrain De Cymru, cysylltwch â'ch codwr arian cymunedol Anna-Marie Jones 07753 271543 neu [email protected] i sgwrsio am eich syniad, i ofyn am becyn gwybodaeth neu cofrestrwch i gasgliad neu ewch i www.mariecurie.org.uk/daffodil

I gofrestru ar gyfer y Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod, ewch i www.mariecurie.org.uk/dayofreflection


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2023-02-22 08:42:48 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns