AS Plaid Cymru yn gofyn i'r Gweinidog Iechyd Gyfiawnhau Toriadau mewn Dwy Uned Fân Anafiadau

Brynithel_tie_snip.PNG

Mae AS Plaid Cymru wedi codi'r toriad arfaethedig o'r oriau ar gyfer dwy uned mân anafiadau gyda'r Llywodraeth Lafur.

Fe wnaeth Peredur Owen Griffiths, sy'n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru, godi'r ymgynghoriad presennol i gyfyngu ar oriau'r unedau mân anafiadau yn Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni ac Ysbyty Ystrad Fawr yn Ystrad Mynach.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi dechrau ymgynghoriad 12 wythnos i gau'r unedau rhwng 1am a 7am bob nos. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 1 Rhagfyr.

Yn ystod cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, dywedodd Peredur: "Rydyn ni i gyd yn gwybod bod adrannau damweiniau ac achosion brys o dan bwysau anhygoel ledled y wlad ac rydyn ni wedi clywed cwestiynau am hynny gan y ddau lefarydd ar hyn o bryd.

"Mae hyn yn creu profiad diflas, nid yn unig i gleifion, ond hefyd i staff sy'n gweithio yno.

"Rwy'n synnu felly o weld bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cynnig lleihau amseroedd agor dwy o'u hunedau mân anafiadau, Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni ac Ysbyty Ystrad Fawr yn Ystrad Mynach.

"Yn achos Ysbyty Ystrad Fawr, mae'n cynnig gwneud yr hyn a gafodd ei esbonio fel gostyngiad dros dro o oriau yn ystod COVID i’w wneud yn barhaol.

"O ystyried bod unedau mân anafiadau yn cael eu hystyried yn elfen allweddol mewn strategaeth i leddfu'r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys, onid yw'n gam ôl-radd, ac a fydd hyn yn gwneud Ysbyty Athrofaol y Faenor yn brofiad hyd yn oed yn hirach ac yn fwy rhwystredig i unrhyw un sy'n ymweld â'u hadran damweiniau ac achosion brys ac yn rhoi mwy o bwysau ar y staff sy'n gweithio yno?"

Ymatebodd y Gweinidog Iechyd drwy ddweud bod buddsoddiadau ychwanegol yn cael eu gwneud yn Ysbyty Grange.

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2023-10-19 13:56:28 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns