AS Plaid Cymru yn galw ar Brif Weinidog Cymru i Ddarparu Cymorth Ychwanegol i Helpu gyda Codiad Cyfraddau Morgeisi

Peredur_profile_pic_pro.PNG

Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru wedi codi mater cymorth morgais gyda'r Prif Weinidog.

Gofynnodd Peredur Owen Griffiths hefyd a fyddai unrhyw gymorth i rentwyr a fydd hefyd yn dioddef baich y codiadau morgais.

Yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn y Senedd, dywedodd Peredur fod "llawer, llawer o aelwydydd mewn sefyllfa enbyd."

Ychwanegodd: "Dangosodd un o fy etholwyr ei ddatganiad morgais i mi, sy'n dangos, ar 30 Tachwedd eleni, y bydd eu taliad cyfredol, sef £617.81, yn codi i £932.96.

"Os oes mwy o gynnydd yn y gyfradd llog yn y cyfamser, mae'n ddigon posib y bydd y taliad misol hwnnw'n cynyddu eto.

"Dydyn nhw ddim yn gwybod lle byddan nhw'n dod o hyd i'r arian ychwanegol yna.

"Yn y cyfamser, mae Rishi Sunak yn gofyn i bobl 'ddal ein tir'. Mae hynny'n hawdd dweud pan fydd gennych gyfoeth teuluol amcangyfrifedig o £529 miliwn.

"Mae'r cynllun achub morgeisi yn rhywbeth a ddatblygodd Jocelyn Davies o Blaid Cymru yn effeithiol iawn yn ystod Llywodraeth Cymru'n Un.

"Fel rhan o'r gyfres o gynlluniau i ddiogelu perchnogion tai, a wnewch chi ystyried rhewi rhent yn y farchnad dai breifat i amddiffyn tenantiaid a fydd hefyd yn dioddef oni bai bod camau'n cael eu cymryd?

"Mae Llywodraeth yr SNP wedi pasio deddfwriaeth sydd wedi amddiffyn tenantiaid. Mae tenantiaid yng Nghymru yn haeddu'r un diogelwch, Prif Weinidog." 

Mewn ymateb, gwrthododd y Prif Weinidog y syniad o rewi rhent, gan ei ddisgrifio fel "blunt tool.”

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2023-06-28 10:05:14 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns