Ar ben-blwydd y GIG yn 75 oed, mae Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru wedi rhybuddio bod yn rhaid gofalu am staff os yw'r sefydliad am barhau am 75 mlynedd arall.
Roedd Aelod Senedd Dwyrain De Cymru yn siarad yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn y Senedd pan alwodd ar y Llywodraeth Lafur i fynd i'r afael ag anghydfodau cyflog a phryderon staff.
Dywedodd Peredur: "Yr wythnos hon rydym yn dathlu saith deg pump o flynyddoedd ers y GIG. Gellir dadlau mai dyma'r rhodd fwyaf y mae Cymru, neu, i fod yn fwy manwl gywir, Blaenau Gwent, wedi'i rhoi i'r DU.
"Ond os yw am bara 75 mlynedd arall, mae'n rhaid i ni fod ar ein gwyliadwriaeth; ar ein gwyliadwriaeth yn erbyn y rhai sy'n well ganddynt weld y gwasanaeth mewn dwylo preifat ar sail ideolegol.
"Rhaid i ni sicrhau nad yw staff yn cael eu digalonni na'u gorweithio, a'u bod yn cael telerau ac amodau teg.
"Nid yw'r GIG yn ddim heb ei staff. Gyda hynny mewn golwg, Trefnydd, a allwch chi roi syniad a yw'r pryderon a'r ple rhesymol am well tâl ac amodau a godir gan y gweithwyr, p'un a ydyn nhw'n nyrsys neu'n feddygon teulu, yn mynd i gael eu datrys unrhyw bryd yn fuan?"
Mewn ymateb, atebodd y trefnydd Leslie Griffiths - wrth sefyll i mewn ar ran y Prif Weinidog - bod yn rhaid cael "gwiriad realiti am y gyllideb.”
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter