Wrth ymateb i'r newyddion bod estyniad i'r pwll glo brig yn Ffos-y-Fran, ger Merthyr Tudful, wedi'i wrthod, dywedodd Peredur Owen Griffiths AS : "Mae hwn yn newyddion i'w groesawu i'r trigolion lleol niferus y mae eu bywydau wedi'u difetha gan gloddio cast agored yn eu cymuned.
"Mae'r safle hwn - y mwyaf o'i fath yn y DU - wedi arwain at effaith annioddefol ar ansawdd aer, sŵn a llygredd llwch.
"Mae'r penderfyniad yma i wrthod yr estyniad yn rhyddhad enfawr i gymaint, yn enwedig gan ei fod wedi'i leoli agos i gartrefi, ysgolion a meysydd chwarae."
Ychwanegodd AS Dwyrain De Cymru Plaid Cymru: "Ar wahân i'r ffactorau amgylcheddol lleol, mae glo yn cael effaith ddinistriol ar yr amgylchedd a newid hinsawdd.
"Mae glo yn mynd yn groes i gyfrifoldeb byd-eang Cymru ac ein hymrwymiadau i ddatgarboneiddio.
"Mae’r newyddion yma i’w groesawu i bobl Merthyr heddiw ac i unrhyw un sy'n poeni am yr amgylchedd a'r argyfwng hinsawdd."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter