Mae AS Plaid Cymru wedi galw ar i'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru gefnogi ymgyrch fyddai'n taro'n ariannol y cwmnïau sy'n cynnal “peiriant rhyfel Netanyahu.”
Galwodd Peredur Owen Griffiths AS, sy'n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru, am ymgyrch gwaredu fel modd o sicrhau heddwch yn y Dwyrain Canol cyn i’r rhyfel waethygu ymhellach.
Wrth siarad yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog, dywedodd Peredur: “Ers i'r rhyfel waethygu yn Gaza, rydym wedi gweld lladd a thristwch ar raddfa na ellir ei dychmygu.
“Mae'r nifer o farwolaethau swyddogol yn Gaza bellach wedi rhagori ar 41,000.
“Mae'r trais hwnnw bellach yn gorlifo drosodd i Libanus, gyda'r gwir bryder o wrthdaro yn amgylchynu’r rhanbarth cyfan.
“Nid yw Israel wedi gwrando ar y gwledydd niferus sydd wedi galw am gadoediad.”
Ychwanegodd: “Cyn ei bod hi'n rhy hwyr, oni allwch chi weld bod angen defnyddio'r holl ysgogiadau posib i berswadio'r cwmnïau sy'n ymwneud â chyflenwi deunyddiau a ddefnyddir yn erbyn Palestiniaid a hwyluso peiriant rhyfel Netanyahu?
“Brif Weinidog, a ydych chi'n cytuno ei bod yn hen bryd i ymgyrch o ddad-fudsoddi, i wneud i gwmnïau feddwl ddwywaith cyn iddyn nhw gyflenwi arfau i Israel?”
Wrth ymateb, dywedodd y Prif Weinidog Llafur: “Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am sicrhau bod hynny'n digwydd—nid yw'n faes y gallaf gymryd rhan ynddo.”
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter