Peredur yn Canmol Cynllun Chwarae'r Haf

Penyrheol_Playscheme.jpeg

Mae Aelod Plaid Cymru o'r Senedd wedi rhoi canmoliaeth i gynllun chwarae'r haf sydd wedi bod yn diddanu plant ers bron i bedwar degawd.

Canmolodd Peredur Owen Griffiths y cynllun chwarae ym Mhenyrheol, Trecenydd, ac Energlyn ar ôl galw i mewn i sesiwn gyda'i gydweithiwr Plaid Cymru a'r cynghorydd lleol, Steve Skivens.

Mae'r cynllun ar gyfer plant o'r cymunedau lleol ac mae bellach yn ei 37ain flwyddyn.

Meddai Peredur: "Gwnaeth yr amrywiaeth o weithgareddau sy'n cael eu rhoi ymlaen i ddiddanu pobl ifanc lleol argraff arnaf. Ni fyddai dim o hyn yn bosibl heb waith caled gwirfoddolwyr a chefnogaeth y cyngor cymuned lleol sydd wedi cefnogi'r cynllun.

"Gall gwyliau'r haf fod yn chwe wythnos ddrud i deuluoedd a bydd hyn yn arbennig o wir yn yr hinsawdd ariannol bresennol.

"Mae cynlluniau fel hyn yn werth y byd ac rwy'n diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith o wneud iddo ddigwydd.

"Rwy'n gobeithio y bydd yn gallu parhau i ddarparu hwyl ac adloniant fforddiadwy i ddisgyblion oedran ysgol gynradd am ddegawdau i ddod." 

Dywedodd y Cynghorydd Skivens: "Mae cenedlaethau o deuluoedd wedi elwa o'r cynllun hwn ers iddo gael ei lansio yr holl flynyddoedd yn ôl. 

"I rai plant, dyma'r unig ffordd y byddan nhw'n cael profiadau fel trampolinio a digwyddiadau drwy wyliau'r haf.

"Oherwydd yr argyfwng costau byw sy'n gwaethygu, mae cynlluniau fel hyn yn fwy angenrheidiol nawr nag erioed.

"Hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i'r tîm am wneud i hyn ddigwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2023-07-28 16:30:21 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns