Peredur yn dal Tair Blaid Wleidyddol San Steffan i gyfri am eu Rôl mewn Toriadau Mawr i'r Heddlu

Pill_Walkabout_1.jpg

Mae AS Plaid Cymru wedi rhoi'r bai ar bleidiau gwleidyddol San Steffan am y toriadau enfawr i blismona ers 2010.

Yn ôl Peredur Owen Griffiths, sy'n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru, mae'n bosib bod y Torïaid wedi tyngu'r fwyell tra yn Llywodraeth San Steffan ond cawson nhw eu cefnogi gan y Democratiaid Rhyddfrydol mewn clymblaid a'u cefnogi gan Blaid Lafur o'r wrthblaid. 

Roedd Mr Owen Griffiths yn siarad yn ystod trafodaeth lawn am setliad diweddaraf yr heddlu. Defnyddiodd yr enghraifft o gymhorthfa stryd ym Mhontlottyn yr wythnos ddiwethaf lle cwynodd un o'r trigolion lleol am amseroedd ymateb yr heddlu a sut mae diffyg presenoldeb heddlu gweladwy yn effeithio ar y gymuned.

Dywedodd hefyd sut y byddai'r setliad heddlu arfaethedig yn gwthio heddluoedd i wneud toriadau poenus i wasanaethau.

Yn ystod y ddadl, dywedodd Peredur: "Mae llymder wedi cael effaith ddinistriol ar blismona yn y DU.

"Mae'n bosib mai'r toriadau creulon i wariant cyhoeddus, wedi'u cuddio gan y term 'llymder', oedd syniad y blaid Dorïaidd, ond mae y staen hefyd ar bleidiau eraill San Steffan, gan ei fod yn cael ei gefnogi gan y Democratiaid Rhyddfrydol mewn Llywodraeth glymblaid, ac wedi tanysgrifio iddo gan y Blaid Lafur mewn gwrthwynebiad.

"Arweiniodd y don gychwynnol o lymder a yrrwyd gan y Torïaid at 400 o heddweision a 100 o swyddogion cymorth cymunedol yn cael eu colli o rengoedd heddlu'r de yn unig.

"Er y buddsoddiadau diweddar, mae lefelau staffio yn y llu hwn yn parhau i fod yn llawer is na'r niferoedd oedd ganddo yn 2010.

"Cafodd y dirywiad yn lefelau plismona dros y degawd diwethaf ei godi yn ystod cymhorthfa stryd yn ddiweddar ym Mhontlotyn. Roedd pobl wedi sylwi beth mae'r Torïaid, gyda chefnogaeth y lleill yn San Steffan, wedi ei wneud i blismona cymunedol."

Ychwanegodd: "Bydd y setliad hwn yn gwneud darlleniad trist pellach ar gyfer pob un o'n heddluoedd Cymreig. Ni fydd cynnydd o 0.3 y cant yn unig mewn cyllid cymorth canolog yn gwneud fawr ddim i fynd i'r afael â'r pwysau darparu adnoddau difrifol sy'n cael eu hwynebu gan ein heddluoedd.

"Bydd yn golygu bod angen penderfyniadau anodd iawn i'r gyllideb. Mae Heddlu De Cymru, er enghraifft, yn wynebu bwlch cyllidol gwerth £20.8 miliwn, ac yn gorfod nodi gwerth £9.6 miliwn o arbedion eleni i ddangos bod eu cynlluniau gwariant ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 yn gynaliadwy, tra bod Heddlu Dyfed-Powys yn gorfod ystyried arbedion o £5.9 miliwn dros y pum mlynedd nesaf."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2023-02-18 12:48:30 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns