Mae AS Plaid Cymru wedi galw am gynhyrchu map o safleoedd llygredig yng Nghymru.
Dywedodd Peredur Owen Griffiths bod gan bobl "hawl i wybod" lleoliad safleoedd o'r fath yn eu cymuned.
Fe wnaeth AS Dwyrain De Cymru yr alwad yn ystod Cwestiwn i’r Prif Weinidog yn y Senedd ar ôl derbyn sylwadau am safleoedd llygredig fel Tŷ Llwyd yn Ynysddu a hen ffatri tar Thomas Ness ger gorsaf drenau Caerffili.
Galwodd hefyd am sefydlu tasglu gyda'r bwriad o fynd ar drywydd llygryddion a dod ag asiantaethau amrywiol ynghyd i sicrhau bod y safleoedd yr effeithir arnynt yn cael eu hadennill a'u gwneud yn ddiogel.
Dywedodd: "Fel yn achos y map o domenni glo categori C a D yng Nghymru, mae gan bobl hefyd yr hawl i wybod lleoliad safleoedd llygredig hanesyddol.
"Yn anffodus, mae llawer o safleoedd llygredig ledled ein gwlad o ganlyniad i'n treftadaeth ddiwydiannol a'n corfforaethau rhyngwladol gan ein defnyddio fel tir dympio ar gyfer pob math o gemegau cas.
“Efallai bod y corfforaethau hyn wedi hen ddiflannu o'n cymunedau, ond mae etifeddiaeth eu gwaith yn parhau gyda chyrsiau dŵr llygredig."
Ychwanegodd: "A yw'r Llywodraeth hon wedi ystyried cyhoeddi map o safleoedd llygredig ledled Cymru i roi gwybod i'r cyhoedd yn well am y peryglon a allai fodoli yn eu cymuned, a phryd y byddwn hefyd yn cael tasglu sy'n ymroddedig i dynnu'r holl asiantaethau perthnasol sy'n mynd ar drywydd llygryddion ynghyd a delio â'r etifeddiaeth y maent wedi'i gadael ar ôl?"
Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weinidog y gallai fod modd cynnwys gwybodaeth am safleoedd llygredig yn y gwaith y mae ei lywodraeth yn ei wneud ar y Bil Mwyngloddiau sydd wedi eu Dad-ddefnyddio.
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter